Ehangwch eich Sgiliau
Fel y bydd mwy a mwy o bobl yn graddio bob blwyddyn gyda graddau, ydych chi erioed wedi meddwl beth fyddai’n gwneud i’ch cais chi am swydd sefyll allan yng nghanol pentwr o ffurflenni cais? Pam na wnewch chi gyfuno'ch gradd Busnes gydag iaith Ewropeaidd? Nid oes arnoch angen cael TGAU na Lefel A mewn iaith i astudio am radd Busnes ar y cyd gydag iaith ym Mhrifysgol Bangor. Mae ein Hysgol Ieithoedd Modern yn cynnig cyrsiau iaith i ddechreuwyr a rhai canolradd yn arbennig ar gyfer myfyrwyr cyd-anrhydedd sy’n astudio yn Ysgol Bangor Bangor. Gellwch ddewis o Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Eidaleg.
Mae Paulina Marek ar ei blwyddyn olaf o radd BA Marchnata gyda Ffrangeg. Mae hi’n egluro pam y penderfynodd ddewis yr opsiwn hwn.
“Dewisais astudio marchnata gyda Ffrangeg yn bennaf gan fod gennyf ddiddordeb yn y ddau bwnc ac nad oeddwn eisiau rhoi’r gorau i’r naill na’r llall! Rwy’n credu’n gryf fod cyfuno eich gradd gydag iaith yn rhywbeth fydd yn ddefnyddiol iawn mewn bywyd. Bydd yn eich galluogi i gyfathrebu’n fwy hyderus pan fyddwch yn teithio, a bydd yn cynyddu eich siawns o weithio i gwmni rhyngwladol, neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun mewn gwlad arall. Gall meddu ar gefndir busnes ac iaith ychwanegol eich helpu gyda sgiliau ymarferol fel gwneud ymchwil i’r farchnad, creu cynllun busnes, rheoli a threfnu. Bydd cyfuno’r galluoedd yma’n rhoi mwy o siawns i mi gael swydd yn y dyfodol. Buaswn yn ei argymell i bawb!”
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2011