Ehangwch eich sgiliau
Fel y bydd mwy a mwy o bobl yn graddio bob blwyddyn gyda graddau, ydych chi erioed wedi meddwl beth fyddai’n gwneud i’ch cais chi am swydd sefyll allan yng nghanol pentwr o ffurflenni cais? Pam na wnewch chi gyfuno'ch gradd yn y Gyfraith gydag iaith Ewropeaidd? Nid oes arnoch angen cael TGAU na Lefel A mewn iaith i astudio am radd yn y Gyfraith ar y cyd gydag iaith ym Mhrifysgol Bangor.
Mae ein Hysgol Ieithoedd Modern yn cynnig cyrsiau iaith i ddechreuwyr a rhai canolradd yn arbennig ar gyfer myfyrwyr cyd-anrhydedd sy’n astudio yn Ysgol y Gyfraith Bangor. Gellwch ddewis o Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Eidaleg. Mae pob gradd y Gyfraith gydag Ieithoedd yn rhaglenni 4 blynedd ac maent yn cynnwys blwyddyn dramor yn y drydedd flwyddyn.
Mae Claire Hughes ar ei phedwaredd flwyddyn, sef ei blwyddyn olaf, o radd LLB yn y Gyfraith gyda Ffrangeg. Treuliodd ei thrydedd flwyddyn yn Toulouse, Ffrainc. Dyma’i hanes hi...
“Mae’r Gyfraith yn ddiwydiant cystadleuol iawn, ac mae galw mawr am gyfreithwyr gyda sgiliau ieithyddol ychwanegol, yn arbennig gyda thwf yr Undeb Ewropeaidd a sut mae’n effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Drwy ddewis astudio’r Gyfraith gyda Ffrangeg, rydw i wedi cael golwg fanwl iawn yn awr ar system gyfreithiol arall. Mae hyn nid yn unig yn fy ngwneud yn fwy gwybodus, ond hefyd yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i mi o’n system ein hunain, ac mae cael system arall i’w chymharu wedi ei gwneud yn haws i mi ddychmygu sut y mae i gyd yn gweithio ac yn cysylltu â’i gilydd.
“Treuliais fy mlwyddyn dramor yn Toulouse, Ffrainc. Mae hi wedi bod yn un o flynyddoedd mwyaf rhyfeddol fy mywyd. Dechreuais wneud ffrindiau Ffrengig a oedd bob amser yn fodlon helpu ac ar ôl 6 wythnos o fynd i Ysgol y Gyfraith Ffrainc, roeddwn i’n darllen ac yn ysgrifennu testunau Ffrangeg manwl. Mae byw dramor wedi newid y ffordd yr ydw i’n edrych ar bopeth. Mae wedi newid fy hunaniaeth, rydw i’n teimlo’n fwy Ewropeaidd, gyda mwy o feddwl agored, yn fwy diwylliedig, yn fwy gwybodus, ac rydw i’n rhugl yn y Ffrangeg. Mi wnaeth y trefnwyr oedd yn edrych ar ein holau fynd â ni ar nifer o dripiau sgïo, i Barcelona, Paris ac atyniadau eraill i dwristiaid, felly nid gwaith oedd y cyfan!
Yr uchafbwynt oedd cael y cyfle i gael fy nhrwytho’n llwyr mewn diwylliant arall, dod yn rhugl yn Ffrangeg a gwneud ffrindiau o bob rhan o’r byd.
Fy nod yw dod yn gyfreithiwr ym maes cyfraith cystadlu'r Undeb Ewropeaidd.”
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2011