Ei gerddoriaeth yn creu awyrgylch ‘epig’ ar y sgrin
Rhaglen llawn drama a chynnwrf fel yr X Factor oedd yn nychymyg y cyfansoddwr Owain Llwyd, wrth gyfansoddi cerddoriaeth epig ar gyfer y cyfryngau- ac roedd yn llygaid ei le i wneud hyn, gan fod y rhaglen wedi dewis a defnyddio’i gerddoriaeth.
Mae’n ddigon bosib eich bod chithau wedi clywed cyfansoddiadau eraill gan y cyfansoddwr, sydd hefyd yn darlithio yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Bangor. Mae ei gyfansoddiadau wedi’u defnyddio ar raglenni hynod boblogaidd fel Top Gear, Countryfile a Timewatch. Mae ei gyfansoddiadau hefyd wedi’u defnyddio mewn gwledydd eraill; ar y fersiwn Almaeneg o raglen Big Brother, ar gyfer pencampwriaeth tenis yr US Open ac ar sianelau BBC America a Fox.
Mae Owain Llwyd newydd gychwyn darlithio yn Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor- mewn cyfansoddi a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, wedi iddo ddilyn Ysgoloriaeth Cyfrwng Cymraeg, a ariannwyd gan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Fe raddiodd o Brifysgol Bangor ac mae ganddo Ddoethuriaeth gan yr Ysgol Gerdd yn ogystal.
Mae wedi cyfansoddi a rhyddhau llond pedwar CD o gyfansoddiadau epig yn y 18 mis diwethaf. Mae CD arall o waith Owain yn cael ei ryddhau’n fuan- ond peidiwch â rhuthro at eich siop gerddoriaeth leol- gweithio efo cwmni cyhoeddi cerddoriaeth ryngwladol mae Owain, a nhw sydd yn hybu’i gerddoriaeth. Maent yn anfon y CDiau at gwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu dros y byd. Hyn sydd yn dwyn ffrwyth ar hyn o bryd, wrth i gwmnïau cynhyrchu ddewis ei gerddoriaeth ar gyfer eu rhaglenni. Mae hefyd yn derbyn ceisiadau a chomisiynau i gyfansoddi darnau arbennig ar gyfer rhai cwmnïau cynhyrchu.
Fel yr esbonia Owain: “Dwi’n licio cerddoriaeth ddramatig, epig fel y gerddoriaeth mewn ffilmiau fel Gladiator a Braveheart beth bynnag,” meddai Owain. “Felly mae cyfansoddi cerddoriaeth efo themâu cryf yn dod yn hawdd i mi. Dwi’n ystyried y math o gynulleidfa fydd yn gwylio a gwrando ac yn cychwyn wrth ‘fraslunio’’r gerddoriaeth ar y piano er mwyn gosod y syniadaeth ar gyfer y gerddorfa.”
“Ar gyfer y CD diweddaraf ‘Big Screen Atmospheres’ roedd rhaid i mi greu’r manylion ac amrywiadau cerddorol ar gyfer cerddoriaeth oedd eisoes wedi recordio’n fras gan gôr a cherddorfa. Bum ym Mratislava’n recordio efo cerddorfa ac yna’n recordio Côr Riga yn Latfia- yn ogystal â chyfansoddi, roeddwn yn gynhyrchydd ar y CD yn cydweithio efo tîm cynhyrchu fy nghyhoeddwyr, Boosey & Hawkes.”
“Y briff oedd creu cerddoriaeth ysgytwol- maen’ rhaid cael lot yn digwydd mewn trelar ar gyfer ffilm epig- rhaid cael rhywbeth yn digwydd o fewn y gerddoriaeth bob pum eiliad.”
Felly’r tro nesaf rydych chi’n clywed miwsig ysgytwol yn gefndir i ryw raglen neu ffilm, wyddoch chi ddim, efallai mai cerddoriaeth Owain Llwyd, y cyfansoddwr ifanc o Lyndyfrdwy ydyw?
Mae Owain yn cyfeirio at y ffaith na fyddai ddim o’r llwyddiant hyn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth ei rieni Mike a Shirley Brown.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2010