Ein Dinas: Y ffordd mae Pobl ifanc yn ei gweld hi.
Prosiect Celf Bangor gyda Catrin Williams.
Yn ddiweddar, cafodd murlun lliwgar sy’n portreadu ardal a chymeriadau Bangor, drwy lygaid pobl ifanc Bangor ei ddadorchuddio. Crëwyd y murlun gan ddisgyblion Ysgol Tryfan a Chanolfan Ieuenctid Maesgeirchen fel rhan o brosiect celf weledol gan gynllun Ein Dinas, a drefnwyd gan Cynllun Pontio Prifysgol Bangor a Fforwm Gelfyddydau Gwynedd. Mae’r murlun yn cael ei weld ar fyrddau’r safle adeiladau ac yn tynnu llygaid y bobl leol tuag at gynllun Pontio, a arienni’r yn rhannol gan Gronfa Datblygiad Cydgyfeiriant Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, sydd i’w agor yng ngwanwyn 2013.
Mae artist lleol Catrin Williams wedi bod yn rhedeg cyfres o weithdai celf gyda Nia Williams, Gweithiwr Ieuenctid Ysgolion Uwchradd Bangor, ac yn gweithio gyda phobl ifanc Bangor i greu'r murlun enfawr a fydd yn amgylchynu rhan o’r safle adeiladu ar Ffordd Deiniol, Bangor, ble fydd y Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesi yn cael ei godi. Cyfres o bortreadau yw’r gwaith, portreadau o’r bobl ifanc sydd wedi gwneud y gwaith a phobl sy’n bwysig iddynt, eu teulu a’i ffrindiau….ac ambell i wyneb cyfarwydd.
Yn ystod y dadorchuddiad dywedodd yr Athro Fergus Lowe, sy’n arwain y cynllun Pontio ym Mhrifysgol Bangor, “Mae’r prosiect wedi rhoi’r cyfle i wneud defnydd o’r gwagle hwn i ddatblygu sgiliau creadigol pobl ifanc yr ardal a meithrin ymdeimlad o berchnogaeth y gymdeithas o’r ganolfan hon”.
“Mae hwn wedi rhoi cyfle arbennig i ddefnyddio’r gofod fel darn o gelf gyhoeddus a wnaiff dynnu sylw nid yn unig y rhai sydd yn cerdded heibio’r murlun am botensial artistig arbennig yr adeilad sy’n codi tu ôl i’r murlun, ond yn ogystal creu gwaith celf sydd ar ben ei hun yn ein hysbrydoli, yn ifanc ac yn hen, gan ei apêl weledol”.
Mae’r artist Catrin Williams yn wyneb cyfarwydd ym myd celf Gogledd Cymru ac ymhellach. Mae ei gwaith celf gyhoeddus wedi ei harwain i gymunedau yn Blaenau Ffestiniog i Ynys North Uist yn yr Alban. Mae ei gwaith wedi arddangos ar hyd a lled ynysoedd Prydain. Dywedodd Catrin:
“Mae Bangor yn ddinas bwysig iawn i mi. Yma cefais fy ysbrydoli i fod yn artist gan y diweddar Peter Pendergast. Gobeithiaf drwy’r prosiect hwn fy mod wedi trosglwyddo’r un ysbrydoliaeth i bobl ifanc Bangor”.
Meddai Nia Williams, Gweithiwr Ieuenctid Ysgolion Uwchradd Bangor “Mae wedi bod yn bleser i weld y bobl ifanc yn datblygu yn ystod y gweithdai. Mae eu sgiliau celf wedi gwella ac mai yn hyfryd gweld ffrwyth eu llafur yn cael ei arddangos mewn ardal mor flaenllaw i’r ddinas”.
Mae’r prosiect hwn wedi ei noddi gan Brifysgol Bangor, Cyngor Gwynedd a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010