Ein Dinas: Y ffordd mae pobol ifanc yn ei gweld hi
Mae Cynllun Pontio Prifysgol Bangor/Fforwm Celfyddydau Gwynedd yn falch o gyhoeddi penodiad yr artist lleol poblogaidd Catrin Williams i arwain prosiect celf go arbennig- sef cydweithio gyda phobol ifanc ardal Bangor i greu murlun mawr ar y muriau pren sy’n amgylchynu safle adeiladu’r Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesi newydd ar Ffordd Deiniol ynghanol y ddinas.
Prosiect ar y cyd yw Ein Dinas, rhwng Pontio a Fforwm Celfyddydau Gwynedd. Ei fwriad yw
- Datblygu sgiliau creadigol pobl ifanc lleol.
- Meithrin ymwybyddiaeth o berchenogaeth dros Pontio ymysg y gymuned leol.
- Gwneud defnydd o le arddangos mawr yn yr awyr agored.
- Creu amgylchedd dymunol i’r llygad ar y safle yn ystod y cyfnod adeiladu.
Yn wynebu ffordd brysur Deiniol, lle mae cannoedd o bobol yn pasio bob dydd i mewn ac allan o ddinas Bangor, saif byrddau’r safle adeiladu gan ffurfio arwyneb gwastad ar fin y lôn. Gofod teilwng i ddarn o waith celf cyhoeddus fydd nid yn unig yn denu sylw’r cyhoedd at bosibiliadau cynhyrfus yr adeilad newydd sy’n codi o’r tu ôl, ond hefyd yn creu gwaith cymunedol gyda’i werth ei hun yn nhermau ein hysbrydoli, yn hen ac ifanc, gan ein celfyddyd gweledol.
Mae Catrin Williams yn wyneb cyfarwydd ym myd celf Gogledd Cymru, ac wedi arwain cynlluniau celf cyhoeddus o Flaenau Ffestiniog i Ynys North Uist yn yr Alban. Bydd Catrin yn mynd ati yn y misoedd nesaf i ymweld â nifer o ysgolion a chlybiau ieuenctid yr ardal, gan eu harwain a’u hysbrydoli yn y gwaith cyffrous hwn. Meddai Catrin:
“Mae Bangor yn ddinas bwysig i mi – dyma lle y cefais fy ysbrydoli gan Peter Prendergast i fod yn arlunydd fy hun. Rwy'n gobeithio ennyn yr un math o ddiddordeb gyda phlant a phobl ifanc Bangor heddiw.”
Bydd murlun Ein Dinas yn cael ei gynllunio a’i greu o hyn hyd at Nadolig 2010, gan barhau i ddod a lliw a hwyl ein hieuenctid i’r safle nes i’r adeilad newydd gael ei ddad-orchuddio. Noddir y prosiect gan Brifysgol Bangor, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Gwynedd.
Os am fwy o wybodaeth ffoniwch: 01248 382141 (Pontio) neu: 01286 679721 (Fforwm Celfyddydau Gwynedd).
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2010