Elis Dafydd o Brifysgol Bangor yn ennill y Gadair
Elis Dafydd, myfyriwr o Brifysgol Bangor, sydd wedi ennill cadair Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015.
Mae’r gadair yn cael ei chyflwyno am gyfansoddi’r gerdd gaeth neu rydd orau, heb fod dros 100 llinell. Gwreichion oedd y testun eleni.
Aeth Elis, sydd o Drefor ger Caernarfon, i Ysgol yr Eifl yn Nhrefor, Ysgol Glan-y-Môr a Choleg Meirion Dwyfor cyn mynd ymlaen i wneud gradd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae bellach yn astudio am radd MA yma. Roedd yn cystadlu o dan y ffug enw ‘Rhys’.
Roedd deuddeg wedi cystadlu eleni, ac roedd y beirniaid Ifan Prys a Mari George yn teimlo y gallai’r cyntaf, ail a’r trydydd fod wedi bod yn deilwng o’r gadair eleni. Ond oherwydd aeddfedrwydd a phrofiad Elis, ei waith ef ddaeth i’r brig.
Wrth draddodi, dywedodd y beirniaid, “Nodir dyddiad a lleoliad uwchben pob un o’i gerddi gan fynd â ni yn ôl ac ymlaen o Fangor i Gaeredin rhwng ychydig ddyddiau cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban a mis Chwefror 2015. Amod o gariad yw’r gwreichion ac mae’r cariad hwn yn mynd a dod ac yn symbol o obaith / colli gobaith. Mae gan y bardd glust dda am rythm cerdd rydd ac mae’r dweud yn syml ac yn ddiymdrech.”
Daeth Elis yn ail yng nghystadleuaeth Medal Ddrama’r Urdd yn 2009 ac roedd yn un o’r pedwar a fu’n ymgymryd â Her 100 Cerdd 2013. Mae wedi cyfrannu deunydd - yn gerddi ac adolygiadau – at sawl cyhoeddiad ac roedd yn gyd-olygydd gwadd ar y rhifyn diweddaraf o Tu Chwith. Ei ddiddordebau yw llenyddiaeth, crwydro a mwydro.
Dywedodd Elis, “Hoffwn ddiolch o waelod calon i’r holl athrawon, darlithwyr, teulu a ffrindiau am bob cefnogaeth ac ysbrydoliaeth. Hoffwn hefyd gydnabod fy nyled i’r holl feirdd a llenorion sydd wedi cael cymaint o ddylanwad arnaf.”
Elan Grug Muse o Aelwyd Dyffryn Nantlle ddaeth yn ail o dan y ffug enw Jiskřička, gyda Iestyn Tyne o Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor yn drydydd o dan y ffug enw Parisien.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2015