Emily ar restr fer gwobr Womenspire
Mae Gweinyddwr Prosiect M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, ar y rhestr fer i wobr Womenspire gan Chwarae Teg.
Mae Emily Roberts wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Menyw yn yr Economi Wledig, sy'n codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau mae menywod sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig yn eu hwynebu.
Mae Emily yn gyn-fyfyriwr Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, a hi oedd yr aelod staff swyddogol cyntaf yn M-SParc, sydd bellach yn cynnwys tîm o bump, ac mae wedi bod yn y swydd hon ers tair blynedd a hanner.
Dywedodd Emily: "Mae'n gyfle gwych i mi allu cefnogi ac annog menywod eraill yn y diwydiant gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae cael y cyfle i ddatblygu strategaethau sydd wedi cael effaith ar ethos cwmni M-SParc mewn perthynas â chydraddoldeb yn deimlad gwych. Fel gweinyddwr, rydych wastad yn cael y cyfle i ddatblygu eich syniadau yn y modd hwn, felly mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn golygu llawer i mi."
Mae Gwobrau Womenspire yn dathlu llwyddiannau menywod o bob cefndir yng Nghymru sy'n gwneud pethau eithriadol ym mhob agwedd ar eu bywydau bob dydd.
Cyhoeddir yr enillwyr fel rhan o ddathliadau seremoni Womenspire yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fercher, 21 Mehefin dan arweiniad Shân Cothi, y soprano a chyflwynydd teledu a radio.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017