Emoji yn 'iaith newydd sy'n tyfu gyflymaf'
Mae athro ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â chwmni TalkTalk i lansio ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus cenedlaethol newydd i wella dealltwriaeth emojis - iaith sy'n seiliedig ar luniau.
Mae’r emoji wedi cael ei fabwysiadu ar gyfradd gyflymach nag unrhyw iaith arall - dyna farn o astudiaeth newydd sy'n datgelu bod 8 o bob 10 person ym Mhrydain (80%) bellach yn defnyddio'r symbolau lliwgar yma i gyfathrebu.
Astudiaeth 'Emoji IQ' gan TalkTalk Mobile yw'r darn cyntaf o waith ymchwil manwl yn y Deyrnas Unedig sy’n mabwysiadu’r iaith weledol newydd.
Mae'n datgelu bod Emoji wedi datblygu i fod yn hynod boblogaidd yn y DU, gyda 62% yn dweud eu bod yn defnyddio'r iaith newydd yn fwy nag yr oeddent flwyddyn yn ôl a bod 4 o bob 10 yn dweud eu bod wedi anfon negeseuon sy'n cynnwys emoji yn unig.
Mae canfyddiadau’n datgelu bod 72% o'r genhedlaeth iau (18-25) bellach yn ei chael yn haws i fynegi eu hemosiynau gyda'r symbolau darluniadol na geiriau, gyda dros hanner (51%) yn credu bod emoji wedi gwella ein gallu i ryngweithio.
Ond nid yw pawb mor frwdfrydig – mae 31% o'r rhai dros 40 oed yn cyfaddef eu bod yn osgoi defnyddio emoji mewn testun, negeseuon gwib ac apps cyfryngau cymdeithasol fel Facebook gan nad oes ganddynt yr hyder i'w defnyddio'n briodol. Roedd dros hanner o'r rhai dros 40 oed (54%) yn cyfaddef eu bod yn ansicr ynghylch yr hyn y mae'r symbolau’n eu golygu.
Mae'r ymchwil yn cael ei gefnogi gan ymgyrch addysg i wella dealltwriaeth o'r iaith sy'n seiliedig ar luniau, a lansiwyd heddiw gyda 'emoji dynol' yn cymryd i strydoedd Llundain.
Dengys yr astudiaeth bod dros chwarter Prydeinwyr (29%) yn defnyddio emoji mewn o leiaf hanner yr holl negeseuon testun, negeseuon gwib a chyfathrebu cyfryngau cymdeithasol maent yn ei anfon.
Profwyd mai’r emoji wyneb hapus sydd yn fwyaf poblogaidd o ddetholiad y symbolau a ddefnyddir, gyda 62% o Brydeinwyr yn dweud mai hwn yw’r cymeriad a ddefnyddir fwyaf.
Yn y cyfamser, 'Merch ar y Dderbynfa', 'Dwylo Haleliwia, 'Llygaid slei', 'Merch yn Dawnsio' ac 'Wyneb Anniddan' sy’n gadael y mwyaf crafu eu pennau.
Mae TalkTalk Mobile wedi ymuno â'r Athro Vyv Evans, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg i esbonio’r iaith emoji gyda thiwtorial ar-lein 'Emoji IQ'. Mae hefyd prawf IQ Emoji ar gael er mwyn darganfod beth yw eich lefel dealltwriaeth am emoji.
Meddai’r r Athro Evans: "Emoji yw'r iaith sy'n tyfu gyflymaf o fewn hanes yn seiliedig ar gyflymder mabwysiadu ac esblygiad anhygoel.
"Fel iaith weledol mae’r emoji eisoes wedi trechu’r ysgrif hieroglyffig, a gymerodd canrifoedd i’w ddatblygu."
Dywedodd Dan Meader o TalkTalk: "Mae’r cynyddiad sydyn mewn rhwydweithiau cymdeithasol ac apps negeseuon ar ein ffonau clyfar yn golygu bod Emoji yn prysur ddod yn ffordd boblogaidd a chyflym i fynegi sut rydym yn teimlo. Gydag ychydig o greadigrwydd nid oes terfyn ar yr hyn y gallwn ei fynegi gyda Emoji. "
Ychwanegodd yr Athro Evans: "O ystyried y gwerth ychwanegol a ddarperir gan Emoji, mae disgwyl i’w defnydd gynyddu ar draws pob oedran a grwpiau diwylliannol. Er y bydd y defnydd yn amrywio yn ôl y math o gyfathrebu, nid yw'n annirnadwy y bydd y mwyafrif o gyfathrebu digidol yn cynnwys Emoji yn y dyfodol.
"Yn wahanol i ieithoedd naturiol megis Saesneg, mae Emoji bron yn adnabyddus yn fyd-eang oherwydd ei gynrychiolaeth weledol. Ni fydd Emoji yn cymryd lle ieithoedd traddodiadol ond bydd cael ei ddefnyddio i ychwanegu atynt.
"Rwy'n credu ei fod bosibl y bydd cynydd yn y defnydd o Emoji i ategu fersiynau digidol o waith ysgrifenedig. Enghraifft o hyn yw cynnwys Emoji i gyfleu ystyr mewn fersiynau talfyredig o Shakespeare, felly cyflwyno straeon gwych i genhedlaeth hollol newydd. "
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2015