EMPYRE: Project Gwaith Ieuenctid yn Ewrop
Mae'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas bellach yn un o bartneriaid project Erasmus EMPYRE sydd yn canolbwyntio ar waith ieuenctid yn Ewrop. Mae sefydliadau addysg uwch eraill o bob cwr o'r Undeb Ewropeaidd a sefydliadau elusennol mewn pedair gwlad yn bartneriaid yn y project, sy'n archwilio, yn casglu ac yn datblygu arferion gwaith ieuenctid llwyddiannus sy'n cael eu defnyddio i rymuso pobl ifanc yn Ewrop. Y grŵp targed o ran arferion da yw pobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl o gael eu hallgáu'n gymdeithasol ac nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae'r project yn dechrau ym mis Medi 2019 a bydd yn rhedeg am 27 mis ac mae wedi cael 540,000 ewro o gyllid Erasmus. Yn ystod y project bydd cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ysgol haf ac mewn rhaglen ddwys yn y Ffindir ac yn Awstria.
Mae pob prifysgol sy'n rhan o'r project yn casglu 5-7 o arferion da o ran gwaith ieuenctid a ddefnyddir i rymuso pobl ifanc yn gymdeithasol. Mae'r sefydliadau addysg uwch sy'n cymryd rhan a'u partneriaid (partner Prifysgol Bangor yw'r elusen Gisda sy'n darparu cefnogaeth a llety i bobl ifanc ddigartref yn lleol) yn defnyddio eu harbenigedd wrth asesu a dewis yr arferion da.
Mae arferion da yn cynnwys, er enghraifft, arferion llwyddiannus ym maes gwella dinasyddiaeth weithredol, datblygu cydweithrediad rhwng sawl proffesiwn neu waith estyn allan gyda phobl ifanc neu waith ieuenctid yn y gymuned yn enwedig mewn cymdogaethau sydd wedi'u hesgeuluso.
Mae'r asesiad o "beth yw arfer da neu lwyddiannus?" - yn seiliedig ar y canlynol a) gwerthusiadau gan gleientiaid yn defnyddio dull Bigva sy'n asesu effaith yr ymarfer, b) gwerthusiadau gan ymarferwyr profiadol a chyfweliadau â chymheiriaid ac c) dadansoddiad ystadegol o effaith yr arferion a ddefnyddir. Adroddir am y dulliau gwerthuso a'r dadansoddiad methodolegol beirniadol mewn cyhoeddiad ac mewn cwrs ar y we a chânt eu defnyddio hefyd at ddibenion addysgu fel enghreifftiau o sut i asesu a gwerthuso arferion da. Mae'r project yn creu cwrs ar-lein, deunyddiau addysgu a rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr ieuenctid i hwyluso grymuso cymdeithasol a dinasyddiaeth weithredol ymhlith ieuenctid sydd wedi'u hallgáu.
Mae'r math o gwestiynau yr edrychwyd arnynt yn cynnwys: pa elfennau sy'n rhan o rymuso cymdeithasol? Pa fath o sgiliau a gwybodaeth sydd wrth wraidd arferion llwyddiannus? Pa fath o baramedrau cyffredin y gellir eu canfod wrth wraidd arferion llwyddiannus? Sut y gellid datblygu'r dull o werthuso arferion llwyddiannus?
Mae'r ymarferwyr sy'n gyfrifol am yr arferion da, darlithwyr a myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu ffyrdd arloesol o ddysgu am yr arferion. Gwneir hynny trwy gyfweliadau, ffilmiau byr, posteri ac erthyglau.
Cynhelir Ysgol Haf fel y gall staff, myfyrwyr a gweithwyr ieuenctid ddefnyddio'r arferion llwyddiannus a werthuswyd i rymuso pobl ifanc yn gymdeithasol mewn projectau cymdeithasol go iawn yn y Ffindir. Hefyd cynhelir rhaglen ddwys dros chwe diwrnod yn Linz i drawsnewid yr arferion a ddewiswyd at ddibenion addysgu ar y we.
Am fanylion pellach cysylltwch â Dr Hefin Gwilym, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019