Enillwyr Her Ddiwylliannol i deithio i Tsieina
Cynhaliwyd yr Her Ddiwylliannol, y gystadleuaeth flynyddol i fyfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ddiweddar. Trefnwyd y digwyddiad gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol a bu saith tîm o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn ymgiprys i ennill taith fythgofiadwy i Tsieina.
Gofynnwyd i'r timau, a oedd yn cynnwys myfyrwyr o wahanol wledydd, i baratoi a rhoi cyflwyniadau am ddiwylliant un neu fwy o aelodau'r grŵp. Dilynwyd hyn gan gwis gyda chwestiynau am Fangor, Cymru, y DU, Tsieina, y byd a gwyddoniaeth.
Dyma enillwyr y gystadleuaeth eleni: Michael Solski (Gwlad Pwyl) a Taylor Smith (DU) o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol, Hui Zhang (Tsieina) o Ysgol Busnes Bangor ac Elizabeth Strange (Canada) o Ysgol y Gyfraith Bangor. Enillodd y myfyrwyr daith bythefnos o amgylch Tsieina yn ystod gwyliau'r Pasg. Cafodd y timau a enillodd yr ail a'r drydedd wobr dalebau Amazon gwerth £400 a £200 fesul tîm.
Meddai Angharad Thomas, y Cyfarwyddwr Datblygiad Rhyngwladol:
"Mae'r gystadleuaeth Her Ddiwylliannol yn ei phumed flwyddyn erbyn hyn ac wedi tyfu'n aruthrol ers ei sefydlu. Y nod yw hyrwyddo integreiddio diwylliannol rhwng myfyrwyr o wahanol genhedloedd ac mae'r wobr gyntaf o daith bythefnos i Tsieina wedi ennyn llawer o ddiddordeb. Roedd y timau eleni yn cynnwys myfyrwyr o un ar ddeg o wahanol wledydd, ac roedd y cyflwyniadau a gafwyd ganddynt am eu diwylliannau amrywiol yn ddiddorol ac yn llawn hwyl, roeddent yn amlwg wedi gweithio'n galed. Mae'r Ganolfan Addysg Ryngwladol yn falch o barhau i hyrwyddo'r gystadleuaeth gan ei bod yn cyfrannu at yr agenda profiad myfyrwyr, yn dathlu amrywiaeth ac yn hybu integreiddio rhwng ein myfyrwyr rhyngwladol a chartref.”
Daeth y syniad am y gystadleuaeth hon yn wreiddiol o Gymdeithas Tsieinëeg Prifysgol Bangor. Roedd yn rhaid i'r timau gynnwys un myfyriwr Tsieinëeg, un o Brydain a dau o genhedloedd eraill. Cefnogwyd y digwyddiad gan Sefydliad Confucius Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2016