Enillydd cystadleuaeth gelf i fyfyrwyr wedi ei hysbrydoli gan obaith ymchwil cancr
Mae artist brwd o Ysgol David Hughes wedi ennill cystadleuaeth gelf leol ar ôl cael ei hysbrydoli gan waith rhai o ymchwilwyr cancr pennaf Cymru.
Lluniodd Annabelle Blight, o Landegfan, y dyluniad buddugol fel rhan o Gystadleuaeth Ffotograffiaeth, Celf a Barddoniaeth Gŵyl Wyddoniaeth flynyddol Bangor.
Fel rhan o un o brif ddigwyddiadau'r ŵyl wyddoniaeth, yr arddangosfa Bydoedd Cudd, cafodd pobl eu gwahodd i labordai ymchwil cancr Sefydliad Ymchwil Cancr Gogledd Orllewin Lloegr ym Mhrifysgol Bangor ddydd Sadwrn 12 Mawrth rhwng 10am a 4pm, i ddysgu mwy am y gwaith hollbwysig sy'n cael ei wneud er mwyn trechu cancr.
Cymerodd Annabelle brif elfen logo Ymchwil Cancr Gogledd Orllewin Lloegr, glöyn byw o'r enw Glesyn yr Eiddew, gan ei ail-ddelweddu yn ei darn sydd ag elfennau o ludwaith ac sydd yn cynnwys y geiriau 'From Despair Comes Hope.'
Dywedodd Annabelle, sy'n 15 oed: "Mi ges i fy ysbrydoli gan logo glöyn byw Sefydliad Ymchwil Cancr Gogledd Orllewin Lloegr. Mae'r gwaith yn llawn gobaith y gellir trechu cancr."
Dywedodd Dr Edgar Hartsuiker, Cadeirydd Sefydliad Ymchwil Cancr Gogledd Orllewin Lloegr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Bangor: "Mae dyluniad Annabelle yn cyfleu'n berffaith y gwaith hollbwysig yr ydym ni yn ei wneud yma ym Mangor, yn helpu i wella ein dealltwriaeth o gancr a sut mae'n ymddwyn.
"Cancr yw un o'r lladdwyr mwyaf yng Nghymru, ond heddiw, diolch i ymchwil cancr, mae hanner y bobl sy'n cael diagnosis o gancr yn goroesi. Mae ymchwil cancr yn rhoi gobaith i ni y bydd pawb, ryw ddydd, yn goroesi'r clefyd ofnadwy yma."
Bydd dyluniad Annabelle nawr yn cael ei arddangos mewn arddangosfa arbennig yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Bangor 2016 (11-20 Mawrth) yn STORIEL, sef Amgueddfa ac Oriel Gelf Newydd Gwynedd ar Ffordd Deiniol, Bangor.
Cafodd cystadleuaeth Ffotograffiaeth, Celf a Barddoniaeth Gŵyl Wyddoniaeth Bangor ei sefydlu i ddathlu talentau artistiaid ifanc, ac i godi ymwybyddiaeth am wyddoniaeth, yr amgylchedd a phwysigrwydd byw yn gynaliadwy.
Dywedodd Stevie Scanlan, Trefnydd Gŵyl Wyddoniaeth Bangor: "Mae'n wir mai'r gystadleuaeth hon yw un o uchafbwyntiau Gŵyl Wyddoniaeth Bangor, roedd y gwaith a gawson ni eleni’n drawiadol iawn, ac roedd pawb a gystadlodd yn amlwg wedi rhoi llawer o feddwl i’w gwaith."
Cynhelir Gŵyl Wyddoniaeth nesaf Bangor, ym Mhrifysgol Bangor, rhwng 10 a 20 Mawrth 2017 fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain. Mae’n cynnig rhywbeth i bawb, gyda gweithgareddau i deuluoedd a grwpiau ysgol, i oedolion sy’n chwilio am adloniant a thrafodaethau buddiol, neu i weithwyr proffesiynol sy’n ymddiddori yn yr ymchwil ddiweddaraf.
Ceir mwy o wybodaeth am y gweithgareddau a fydd yn cael eu trefnu yn: https://www.bangor.ac.uk/bangorsciencefestival/index.php.cy
Ffotograffiaeth
Gwobr Gyntaf Cynradd Gwobr Gyntaf Uwchradd
Stephanie L. Williams Joshua Meyerratken
Blwyddyn 6 Ysgol y Faenol Ysgol: Botwnnog blwyddyn 10
2il wobr uwchradd
Emma Jane Williams
Ysgol Friars Bl10
Canmoliaeth uchel Uwchradd
Antonia Jones
Ysgol: Botwnnog blwyddyn 10
Celf
Gwobr Gyntaf Cynradd Gwobr Gyntaf Uwchradd
Amy Evans Annabelle Blight
11 oed 15 oed
Ysgol y Faenol blwyddyn 6 Ysgol David Hughes
Ail wobr cynradd Ail Wobr Uwchradd
Ellie Rose Owen Arron Thorpe
Ysgol y Faenol blwyddyn 6 Oed: 12 Ysgol David Hughes
Canmoliaeth uchel Cynradd Canmoliaeth Uchel Uwchradd
Liberty Hope Schofield Dora Hamilton (does dim llun ohoni)
10 oed Ysgol y Faenol blwyddyn 6 Oed: 13 Ysgol Sant Gerard's
Barddoniaeth
Gwobr Gyntaf Saesneg Cynradd Gwobr Gyntaf Uwchradd
Hadia Jasmine Blight
8 oed Ysgol y Faenol Bangor 13 oed Ysgol David Hughes
Gwobr Gyntaf Cymraeg Cynradd
Hannah Mai Owen
10 oed Ysgol Y Faenol Blwyddyn 6
Ysgol y Faenol, Penrhosgarnedd
Canmoliaeth uchel Cynradd
Armeen Javaid
10 oed Ysgol y Faenol
Tamsin Lumley
10 oed Ysgol y Faenol blwyddyn 6
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2016