Enillydd Gwobr Goffa Llew Rees 2010.
Mae'r wobr chwaraeon uchaf ym Mhrifysgol Bangor, Gwobr Goffa Llew Rees, sydd yn cael ei ddyrannu i'r chwaraewr mwyaf amlwg ymysg y myfyrwyr wedi'i ddyfarnu eleni Vicky Gottwald. Mae Vicky'n fyfyrwraig ôl-radd ac yn astudio doethuriaeth mewn Gwyddor Chwaraeon.
Mae Vicky wedi derbyn swm o £750 i gyfrannu at wella'i pherfformiad.
Mae Vicky'n hanu o Grove, Swydd Rydychen ac sy'n chwarae Pêl -fasged ar lefel cenedlaethol. Er iddi chwarae Pêl-fasged ers iddi fod ym mlwyddyn 10 yn yr ysgol, ni ddechreuodd chwarae'r gêm o ddifrif hyd nes iddi ddod i Brifysgol Bangor yn 2003. Yn ystod ei hail flwyddyn, ymgymerodd â swyddogaeth Capten a Hyfforddwr Tîm y Merched.
Meddai Vicky: "Mae'n fraint derbyn y Wobr ac mae eisoes yn fy sbarduno i hyfforddi'n galetach. Mae gen i sawl nod yr hoffwn eu cyflawni yn fy mhêl-fasged a bydd y wobr yn hwyluso hyn trwy arbenigaeth hyfforddi, amser ar y cwrt ac offer. Fy mhrif sialens am y flwyddyn yw cael fy nethol ar gyfer Tîm Cenedlaethol Merched Cymru."
Yn ystod 2009/ 2010, mae Vicky wedi chwarae yn holl gemau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), a'r tîm heb ei guro gartref. Mae'r tîm wedi cyrraedd Rownd Gynderfynol y Gogledd yng nghystadleuaeth Cwpan BUCS, ac wedi gorffen y tymor yn yr ail safle.
Mae Vicky wedi cael ei dewis i gynrychioli tîm Prifysgolion Cymru dair gwaith yng Ngemau Prifysgolion Cymru ac, yn nhymor 2009/2010, dewiswyd hi'n Is-gapten yng Ngemau'r Cenhedloedd Cartref.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu Vicky hefyd wrthi'n datblygu cysylltiadau rhwng Prifysgol Bangor a Chlybiau Pêl-fasged Celtiaid Caergybi. Mae hyn wedi helpu chwaraewyr i dalu am gymwysterau hyfforddi, a hefyd wedi hwyluso'r ffordd i gysylltu ag arbenigwyr yn y maes. Yn amodol ar gyllid, bydd cynllun pum mlynedd yn fodd i ddatblygu Academi Bêl-fasged yng Ngogledd Cymru, a fydd yn denu chwaraewyr o ysgolion cynradd trwodd at dimau'r Prifysgolion.
"Rydym yn hynod falch o gynnig cefnogaeth i chwaraewr mor ymroddedig yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol. Rydym yn dymuno pob lwc i Vicky a phob llwyddiant ar gyfer y dyfodol," meddai Mike Goodwin, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2010