Enillydd Gwobr Nobel yn rhoi Darlith Gyhoeddus
Nid oes yr un pwnc mwy dadleuol a phwysig na “Chynhesu Byd-Eang” a gwahoddwyd un o wyddonwyr mwyaf blaenllaw Cymru i draddodi Darlith Flynyddol y Gaplaniaeth ar “God, Science and Global Warming".
Bydd Syr John Houghton, CBE FLSW FRS, aelod o’r IPCC (Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd), ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn 2007, yn traddodi’r ddarlith nos Fercher Tachwedd 24 am 7:00pm ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau Prifysgol Bangor.
Bydd y ddarlith gyffrous hon yn agor cyfres newydd o Ddarlith Flynyddol y Gaplaniaeth, lle gwahoddir academyddion blaenllaw i ystyried y rhyngwyneb rhwng crefydd a phynciau llosg cyfoes.
Mae Syr John Houghton yn ffigwr allweddol bwysig mewn cylchoedd gwyddonol ers nifer o ddegawdau bellach. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Rhyl ac yn Rhydychen lle daeth yn y pen draw yn Athro Ffiseg yr Atmosffer. Bu’n Brif Weithredwr Swyddfa’r Met o 1983 hyd 1991 ond yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd yr IPPC y daeth i amlygrwydd yn y newyddion. Gellir dadlau mai hwn yw’r gweithgor gwyddonol pwysicaf yn y blynyddoedd diwethaf ac wrth gwrs mae wedi bod yn destun sawl dadl.
Mae rhybuddion Syr John yn ddigyfaddawd ac yn ddiflewyn ar dafod, ac un o’i ddyfyniadau enwocaf yw “mae effeithiau cynhesu byd eang yn gyfryw fel nad ydw i’n petruso o gwbl rhag ei ddisgrifio fel ‘arf dinistr torfol’. Am y cenedlaethau i ddod y mae ei bryder. “Ein plant a’n hwyrion fydd yn profi effeithiau newid yn yr hinsawdd” meddai. “Cofiaf yn 1990 pan gyhoeddwyd adroddiad cyntaf yr IPCC. Dangosodd y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, gryn ddiddordeb…gofynnodd un o weinidogion y cabinet i mi, “Pryd bydd hyn i gyd yn digwydd?” Atebais y gallem ddisgwyl gweld rhai effeithiau difrifol ymhen 20 neu 30 o flynyddoedd. “O” meddai, “mae hynny’n iawn, bydda i wedi mynd erbyn hynny.” Ond fydd ei blant a’i wyrion ddim wedi mynd. Mae Cristnogion a phobl grefyddol eraill yn credu ein bod ni wedi ein gosod ar y ddaear i edrych ar ei hôl. Nid i ni yn unig mae’r greadigaeth yn bwysig, credwn ei bod yn bwysig i Dduw hefyd a bod gan weddill y greadigaeth ei phwysigrwydd ei hun…rydym yn dinistrio coedwigoedd, coedwigoedd pwysig. Wrth sôn amdanom ‘ni’ rydw i’n cyfeirio at yr hil ddynol yr ydym yn rhan ohoni. Rydym yn rhan o’r dinistrio, rydym yn gadael iddo ddigwydd, a dweud y gwir mae’n ein gwneud ni’n gyfoethocach. Mae angen i ni gymryd ein cyfrifoldeb fel “garddwyr” yn fwy o ddifri.
Mae Syr John wedi ymddeol i Aberdyfi, lle mae’n henadur yn ei Eglwys Bresbyteraidd leol. Mae ei ffydd yn nodwedd amlwg o’i safbwyntiau a’i waith ysgrifenedig, ac mae’n gyfforddus yn dadlau ar gwestiynau megis tarddiad y bydysawd neu arwyddocâd ymwybyddiaeth pobl.
Mae Caplan Bedyddwyr Prifysgol Bangor, y Parch. Peter Cousins, wrth ei fodd bod ffigwr mor amlwg yn dod i draddodi Darlith Flynyddol gyntaf y Gaplaniaeth. “ Does yna’r un ddadl bwysicach na Chynhesu Byd-Eang” meddai – “ A does yr un gwyddonydd ym Mhrydain sy’n fwy cymwys i siarad amdano. Bydd ei ddarlith yn amlygu nid yn unig ei dreiddgarwch a’i brofiad fel Ffisegydd yr Atmosffer, ond ei natur gynnes ac ysbrydol fel Cristion o argyhoeddiad.”
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2010