Enillydd Kindle y Ffair ôl-raddedigion
Pan ddaeth George Yates i'r Ffair Cyrsiau ôl-raddedigion ddiwedd Tachwedd, nid oedd yn gwybod y byddai'n rhaid iddo ailfeddwl ynghylch ei restr Nadolig. Cafodd cerdyn cofrestru George ei ddewis ar hap o blith dros 350 o gardiau ar ddiwrnod y Ffair, a daeth yn enillydd lwcus Amazon Kindle newydd sbon. Yn digwydd bod, roedd hwn ar frig ei restr o bethau y byddai wedi hoffi'u cael Nadolig pan fu i ni gwrdd ag o fis Rhagfyr.
Roedd George yn amlwg wrth ei fodd o ennill y Kindle, ond roedd gennym ni ddiddordeb hefyd mewn clywed pam iddo benderfynu ymchwilio i'w opsiynau yn y Ffair.
“Rydw i'n astudio Swoleg ar hyn o bryd, ac mae gen i ddiddordeb penodol yn y modiwl Esblygu a Geneteg. Rydw i'n awyddus iawn astudio ecoleg foleciwlaidd ar lefel ôl-radd - rydw i'n wastad wedi bod eisiau astudio hanes esblygol bywyd ar raddfa fawr, ac mae data moleciwlaidd wir wedi newid ein dealltwriaeth o darddiad bywyd a hanes cynnar. Ond mae hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer deall testunau mwy penodol, fel hyfywedd poblogaeth, amrywiad rhanbarthol ac amrywiaeth cryptig – mae'r dewis helaeth yn apelio ataf i yn fwy na dim byd arall.
Pan ofynnwyd iddo beth fyddai'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n meddwl am astudio ym Mangor, roedd gan George y cyngor hwn:
“Mae Bangor yn adnabyddus am ei rhagoriaeth ymchwil, ac mae ganddi lawer o gysylltiadau rhyngwladol. Os ydych chi'n caru'r pwnc, ac eisiau'r cyfle i gwrdd â'r rhai proffesiynol ym mha bynnag faes mae gennych ddiddordeb ynddo, yna gwnewch gais! Ac o ran prifysgolion ‘awyr agored’, Bangor yw'r gorau y gellwch ei chael am leoliad – mae'n lle gwych i fod, a dyna ni.”
Cynhelir y Ffair Cyrsiau ôl-radd nesaf ddydd Gwener, 28 Chwefror yn Neuadd PJ.
Darllenwch broffil llawn George yma.
Gwyliwch broffil fideo George yma.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2014