Enillydd Ysgoloriaeth Ragoriaeth yn graddio
Mae gwaith caled ac ymroddiad wedi talu ar ei ganfed i fyfyrwraig o Brifysgol Bangor sy'n graddio’r wythnos hon.
Bydd Hannah Rettie, 21 oed, o Abergele a chyn ddisgybl yn Ysgol Emrys ap Iwan, yn graddio’r wythnos hon gyda gradd BSc Seicoleg o un o ysgolion Seicoleg gorau'r DU.
Yn ystod ei blwyddyn gyntaf ym Mangor, enillodd Hannah Ysgoloriaeth Ragoriaeth gwerth £3,000. Dyfernir Ysgoloriaeth Ragoriaeth Prifysgol Bangor i fyfyrwyr israddedig newydd o’r DU a’r UE gyda’r cyraeddiadau academaidd uchaf yn y meysydd pwnc perthnasol.
Meddai Hannah, sy’n falch iawn ei bod yn graddio: "Mae'n deimlad brawychus iawn ond yn gyffrous ar yr un pryd. Rwy'n drist bod blynyddoedd gorau fy mywyd wedi dod i ben, ond rwy'n edrych ymlaen at y dyfodol.
"Fe ddes i Fangor oherwydd bod gan yr Ysgol Seicoleg enw rhagorol, ac rwy'n caru gogledd Cymru - doeddwn i ddim eisiau gadael ar ôl byw yma ar hyd fy oes.
"Yn ystod fy amser ym Mangor, fe wnes i barhau â fy swydd ran-amser, ac roeddwn hefyd yn cael fy nghyflogi gan y Brifysgol fel cyfaill e-bost sef cynghori darpar fyfyrwyr a hefyd fel mentor POPPS, lle yr oeddwn yn dysgu sgiliau cyflwyno i fyfyrwyr eraill. Roedd yn waith caled ar adegau yn ceisio cadw cydbwysedd rhwng popeth, ond roedd yn werth yr ymdrech.
"Yr haf diwethaf cefais interniaeth a ariannwyd gan EPS yn yr Ysgol Seicoleg, rhoddodd brofiad uniongyrchol i mi o gymryd rhan mewn ymchwil yn y labordy. Rwyf hefyd wedi bod yn gynrychiolydd cwrs drwy gydol fy nghwrs gradd, ac eleni enillais wobr Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn Cymru Ddoeth.
"Rwyf wedi bod yn rhan o Wirfoddoli Myfyrwyr Bangor drwy gydol fy nhair blynedd yma, yn cymryd rhan mewn nifer o brojectau gwirfoddoli diddorol yn ystod y blynyddoedd.
"Dwi'n gobeithio parhau gydag astudiaethau ôl-radd ym Mangor y semester nesaf, gyda'r nod terfynol o fod yn seicolegydd clinigol."
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014