Ennill drwy fynegi’ch barn am wyddoniaeth a’r amgylchedd
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfle i bobol ifanc fynegi’u barn drwy gân, fideo, neu ffotograff! Mae dwy gystadleuaeth sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth ac ar themâu amgylcheddol ac sy’n cynnig gwobrau arian mawr yn cael eu lansio’r wythnos hon fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth gyntaf y Brifysgol i bara wythnos gyfan.
Mae’r Ŵyl Wyddoniaeth yn rhedeg rhwng Gwener 11 Mawrth a Sadwrn 19 Mawrth 2011. Bydd gweithgareddau sy’n apelio at bob oedran a diddordeb.
Os yw ffotograffiaeth, celf a barddoniaeth at eich dant, ac os ydych o dan 18, yna fe’ch gwahoddir chi i yrru lluniau, barddoniaeth neu ddarn o gelfyddyd sy’n mynegi gwyddoniaeth a natur. Gwahoddir unigolion, grwpiau ysgolion a mudiadau ieuenctid i gymryd rhan a chystadlu cyn 1 Chwefror 2011 am gyfle i ennill tocynnau teulu i Gelli Gyffwrdd a’r camerâu digidol diweddaraf.
Mae cynaladwyedd a phrynu moesegol yn bynciau trafod yng Nghymru ac ym Mhrydain ar hyn o bryd. Dyna pam mae ysgolion a mudiadau ieuenctid yn derbyn gwahoddiad i drafod eu barn ar gynaladwyedd. Bwriad y gystadleuaeth, sy’n cael ei noddi gan Waitrose, yw ysbrydoli pobol ifanc i gymryd rhan mewn materion cyfoes a’u hannog i fynegi’u barn. Mae’r gystadleuaeth yn gofyn am fideo tri munud o hyd mewn unrhyw fformat, sy’n cyfleu neges am gynaladwyedd i Brif Weinidog Cymru mewn modd creadigol.
Bydd enillwyr y cystadlaethau ffotograffiaeth, celf a barddoniaeth hefyd yn cael eu gwaith wedi’i arddangos fel rhan o arddangosfa gyhoeddus yn Oriel ac Amgueddfa Bangor drwy gydol yr Ŵyl ac Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg (Mawrth 11-20). Bydd y Prif Weinidog yn gwylio’r tri chais llwyddiannus yn y gystadleuaeth cyfathrebu.
Mae manylion llawn am y cystadlaethau i’w cael ar wefan yr Ŵyl:
Meddai Stevie Scanlan, un o drefnwyr y gystadleuaeth: “Mae Prifysgol Bangor yn gobeithio gwneud pawb yn gyffrous am wyddoniaeth yn ystod yr Ŵyl. Dyna pam ein bod wedi llunio’r cystadlaethau i annog pawb i gymryd rhan. Rydym eisoes wedi derbyn ymateb da gan ysgolion sy’n astudio’r Fagloriaeth Gymreig, gan fod cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn cyfrif tuag at y cymhwyster.”
Mae Rhaglen gweithgareddau cyhoeddus yr Ŵyl hefyd i’w gweld ar y wefan. Mae gweithgareddau fydd yn apelio at bobol o bob oedran ac maen nhw’n rhad ac am ddim.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2011