Entrepreneuriaid Santander Bangor
Bydd Carley Williams, myfyrwraig sy’n astudio Dylunio Cynnyrch, gyda statws Athro cymwysedig yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn rownd y DU gwobrau Entrepreneuriaeth Santander, wedi iddi ennill cystadleuaeth yn y Brifysgol. Yn ymuno a hi hefyd fydd Hernan Diazgranados, myfyriwr ôl-radd, yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Roeddynt ymhlith y myfyrwyr a fu’n cystadlu’n ddiweddar yn cyflwyno eu syniadau busnes o flaen panel o feirniaid, a oedd yn cynnwys Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes. Y dasg a osodwyd gan dîm Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd oedd meddwl am syniad busnes arloesol. Roedd y syniadau a gyflwynwyd gan y myfyrwyr yn cynnwys ystod eang o gynnyrch a phynciau.
Yn dilyn y cyflwyniadau gan y myfyrwyr a roddwyd ar y rhestr fer, rhoddodd y beirniaid y wobr gyntaf o £200 i'r myfyrwyr israddedig ac ôl-radd gorau.
Wrth gyhoeddi mai Carley Williams oedd yr enillydd o blith y myfyrwyr israddedig, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes, fod y beirniaid wedi argraff wych o ran y swmp o waith yr oedd Carley wedi’i greu, a bod hyn yn nodweddiadol o safon gyffredinol gwaith myfyrwyr y cwrs Dylunio Cynnyrch. Roedd project Carley Williams yn sefyll allan, fodd bynnag, gan fod iddo bosibiliadau amlwg yn y farchnad.
O Lanfair ym Muallt y daw Carley Williams, 20 oed, a dyluniodd orchudd ar gyfer plant sy’n defnyddio ‘peg’ neu diwb bwydo i’r stumog. Mae dyfais Carley yn atal plant rhag tynnu’r ‘peg’ allan ac yn ddatrysiad gwych i broblem gyfredol.
Roedd Carley wedi synnu ynglŷn â’i llwyddiant, a bydd hi ’nawr yn ystyried sut i ddatblygu ei phroject ymhellach a pha lwybr i’w ddilyn; p’un ai datblygu ei chynnyrch ynteu ddilyn gyrfa mewn addysgu.
Roedd y beirniaid o’r farn fod project Hernan Diazgranados wedi ei gyflwyno’n dda, a bod y project yn un hyfyw a chyffrous.
Mae Hernan, sy’n hanu o Barranquilla, Colombia, eisoes wedi buddsoddi yn natblygiad masnachol ei ‘ap’ ffrydio cerddoriaeth ar gyfer teclynnau symudol, sydd hefyd yn cynnig elfennau unigryw.
Roedd gan Hernan syniad i ddatblygu rhyw fath o ‘ap’ yn ymwneud â cherddoriaeth, ond daeth yr ysbrydoliaeth iddo mewn fflach. Mae ym Mangor yn astudio ar gyfer gradd MSc mewn Rheolaeth Cyfryngau Rhyngwladol, wedi iddo ennill ysgoloriaeth i astudio ym Mangor. Mae’n ffyddiog ynglŷn â llwyddiant ei syniad busnes ac yn awyddus i ganfod ffynonellau cyllid a phartneriaid i ddatblygu’r project ymhellach.
Yn ystod ei amser yma, mae wedi bod yn ymwneud â chystadleuaeth arall, sef Menter drwy Ddylunio, rhaglen sydd yn creu timau o blith myfyrwyr y Brifysgol o wahanol ddisgyblaethau, sy’n rhannu eu gwybodaeth er mwyn datblygu datrysiad ymarferol i sefyllfa busnes go iawn. Roedd Henran yn gwerthfawrogi’r profiad gan iddo ddysgu lawer am hwyluso a gweithio mewn timau.
Wrth gyflwyno’r gwobrau i'r enillwyr, dywedodd Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes, “Roedd syniadau a brwdfrydedd yr ymgeiswyr wedi gwneud argraff dda ar bob un o’r beirniaid. Mae ansawdd rhai o’r syniadau busnes yn ardderchog, ac mae rhai cynhyrchion masnachol cryf posibl wrthi’n cael eu datblygu. Fy mwriad yw gwneud Prifysgol Bangor yn un o sefydliadau mwyaf blaenllaw’r wlad o ran arloesedd ac entrepreneuriaeth. Byddwn yn annog yr holl ymgeiswyr i geisio cael cymorth pellach gan y Brifysgol i ddatblygu eu syniadau entrepreneuraidd.”
Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys yr Athro John G. Hughes, Is-ganghellor; Chris Walker, Cyfarwyddwr People Systems International a mentor entrepreneuriaeth y Brifysgol a Diane Roberts o Santander Universities.
Cynhelir rownd derfynol cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander yn Triton Square, Llundain ar 1 Gorffennaf.
Cyllidir rownd Bangor gwobrwyon Entrepreneuriaeth Santander yn rhannol gan Ganolfan Ranbarthol y Gogledd-orllewin, un o chwe chanolfan a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i hymrwymiad i hybu entrepreneuriaeth ymysg yr ifainc yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015