Entrepreneuriaid Santander Bangor
Mae Tom Purnell, myfyriwr Dylunio Cynnyrch, a Will Osborn, myfyriwr ôl-radd Seicoleg Defnyddwyr, wedi ennill cystadleuaeth Prifysgol Bangor o’r Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander a byddant yn cynrychioli'r Brifysgol yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Roeddent ymhlith y myfyrwyr a fu'n cystadlu’n ddiweddar yn cyflwyno eu syniadau busnes o flaen panel o feirniaid, a oedd yn cynnwys Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes. Y dasg a osodwyd gan dîm Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd oedd meddwl am syniad busnes arloesol. Roedd y syniadau a gyflwynwyd gan y myfyrwyr yn cynnwys ystod eang o gynnyrch a phynciau.
Yn dilyn saith cyflwyniad gan fyfyrwyr israddedig a phedwar gan fyfyrwyr ôl-radd, rhoddodd y beirniaid y wobr gyntaf o £200 i'r myfyrwyr israddedig ac ôl-radd gorau ac ail wobr o £50 yng nghategori’r israddedigion.
Wrth gyhoeddi mai Tom Purnell oedd yr enillydd o blith y myfyrwyr israddedig, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes, bod y syniad rhagorol, y dyluniad arbennig a gwybodaeth helaeth Tom am y farchnad a'i botensial wedi gwneud argraff dda ar y beirniaid. Derbyniodd Tom a Will sieciau am £200 yr un.
Dywedodd Will Osborne, sy’n astudio gradd Meistr bod ennill y gystadleuaeth yn deimlad da iawn. Meddai, "Mae'n dangos bod fy syniad yn un da, bod yr holl waith rwyf wedi ei wneud yn werth chweil, a’r gobaith yw y bydd dyfodol disglair i fy nghynnyrch. Bydd yr arian yn cael ei wario ar ddatblygu'r cynnyrch. Y cam nesaf yw paratoi ar gyfer y rownd derfynol. Roedd yr adborth a gefais gan yr arbenigwr ar y panel yn ddefnyddiol iawn. Mae'r gystadleuaeth yn gyfle gwych i gyflwyno eich syniadau a byddwn yn ei argymell i unrhyw un."
Wrth gyflwyno’r gwobrau i'r enillwyr, dywedodd Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes, "Roedd syniadau a brwdfrydedd yr ymgeiswyr wedi gwneud argraff dda ar bob un o’r beirniaid. Mae ansawdd rhai o'r syniadau busnes yn ardderchog, ac mae rhai cynhyrchion masnachol cryf posibl wrthi’n cael eu datblygu. Fy mwriad yw gwneud Prifysgol Bangor yn un o sefydliadau mwyaf blaenllaw'r wlad o ran arloesedd ac entrepreneuriaeth. Byddwn yn annog yr holl ymgeiswyr i geisio cael cymorth pellach gan y Brifysgol i ddatblygu eu syniadau entrepreneuraidd."
Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys yr Athro John G. Hughes, Is-ganghellor; Chris Drew, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa’r Cysylltiadau Strategol; Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Dylunio Pontio a Chris Walker, Cyfarwyddwr People Systems International.
Yr hyn a ysbrydolodd Tom Purnell i wneud ei broject Dylunio Cynnyrch ar gyfer blwyddyn olaf ei radd yn Ysgol Addysg y Brifysgol oedd ei brofiad o ddefnyddio cymorth achub nofwyr wrth weithio fel achubwr bywydau gyda’r RNLI.
Daw Tom, sy’n 21 oed, o Aberteifi, ac ailgynlluniodd y cymorth achub nofwyr ar ôl cael profiad o'i ddefnyddio.
Mae ei brototeip ar fin cael ei gwblhau ac mae Tom yn awyddus i ddatblygu'r cynnyrch ymhellach. Meddai, "Rwyf wedi gweithio ym maes dylunio cynnyrch ers tua wyth mis fel rhan o’m lleoliad ar fy nghwrs gradd a hefyd dros fisoedd yr haf. Rwy'n credu ei fod yn waith diddorol, ond hoffwn ddilyn yr holl brosesau o ddatblygu cynnyrch i’w farchnata ac mae gen i ddiddordeb mewn datblygu’r cynnyrch hwn ar gyfer y farchnad.
"Un peth pwysig yr wyf wedi ei ddysgu o'r gystadleuaeth yw pwysigrwydd cyfrinachedd a diogelu’ch syniadau."
Cynhelir rownd derfynol y gystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain ar 17 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2012