Entrepreneuriaid Santander ym Mangor
Enillwyd cystadleuaeth Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander ym Mhrifysgol Bangor gan fyfyriwr isradd o Flaenau Ffestiniog, Catrin Hicks, a thîm o fyfyrwyr ôl-radd. Byddant yn awr yn mynd ymlaen i gynrychioli’r brifysgol yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Roedd eu syniadau busnes nhw ymhlith yr un ar ddeg o syniadau a gyflwynwyd i banel o feirniaid yn ddiweddar. Y dasg a osodwyd gan dîm Byddwch Fentrus Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y brifysgol oedd meddwl am syniad busnes arloesol. Cyflwynwyd amrywiaeth eang o gynnyrch a gwasanaethau newydd gan y timau a’r unigolion a oedd wedi ymchwilio i’r cynnyrch a’u datblygu eu hunain.
Rhoddwyd gwobrau o £200 i'r myfyrwyr israddedig ac ôl-radd gorau ac ail wobr o £50 i’r ddau gategori.
Wrth gyhoeddi’r enillwyr, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes, bod yr holl waith a wnaed gan y myfyrwyr wedi creu argraff dda ar y beirniaid. Roedd penderfynu ar yr enillwyr wedi bod yn dasg anodd oherwydd y dewis eang a photensial llawer o’r syniadau a gyflwynwyd.
Wrth gyhoeddi Catrin Hicks fel enillydd y categori i israddedigion, dywedodd yr Is-ganghellor bod ei chyflwyniad yn wych ac roedd yr holl ymchwil a wnaed ganddi wrth ddatblygu ei chynnyrch newydd wedi creu argraff dda ar y beirniaid. Aeth yr ail wobr i Daniel Moore o Benmaenmawr.
Cynnyrch Catrin oedd ffordd o oresgyn problemau gosod blew amrant ffug, sy’n gynnyrch poblogaidd a gwerthfawr yn y farchnad defnyddwyr. Ceir risg i iechyd wrth beidio â’u gosod yn iawn felly mae Catrin wedi datblygu dyfais unigryw i ddatrys y broblem hon. Datblygodd Catrin, sy’n astudio Dylunio Cynnyrch, declyn fydd yn helpu i roi’r blew amrant ffug yn eu lle yn iawn.
Meddai, “Wrth gymryd rhan, rwyf wedi dysgu mwy am baratoi ac ymchwilio i’r agwedd farchnata ar ddatblygu cynnyrch. Bydd y profiad hwn a’r sylwadau a gefais yn fy helpu i ddatblygu’r cynnyrch ymhellach.”
Enillwyd y wobr i ôl-raddedigion gan dîm o fyfyrwyr Seicoleg a Busnes am eu syniad i farchnata cwrw go iawn lleol i fyfyrwyr. Aeth yr ail wobr i fyfyrwyr ôl-radd Busnes a’r Gyfraith, Katarzyna Kawa a Mehedi Rahim, gyda’u gwasanaeth a chwmni cyfreithiol newydd wedi’i dargedu o’r enw R & K Legal.
Meddai Theresa Schween, aelod o’r tîm buddugol: “Roedd gwrando ar syniadau gwych y myfyrwyr eraill yn ein hysbrydoli. Roedd sgiliau cyflwyno pawb yn dda iawn hefyd. Roedd ennill y wobr yn werth yr holl waith caled i wneud ein project, ‘Thirst Glass Honours’, a gallwn ddweud gyda chydwybod glir y byddwn yn gwario’r wobr i gyd ar gwrw!”
Datblygodd aelodau’r tîm Jamie Muir, James Gudgeon, Maria O'Reilly, Theresa Schween (yn y llun), Declan McClelland, Ben Haines ac Emma-Louise Jones syniad masnachfraint i weithio gyda bragdai lleol yn ail farchnata eu cwrw o dan frand newydd a fydd wedi ei anelu at ddenu myfyrwyr ifanc yn lle targedu’r farchnad draddodiadol o ddynion hŷn.
"Roedd syniadau a brwdfrydedd yr ymgeiswyr wedi gwneud argraff dda ar bob un o’r beirniaid. Mae ansawdd rhai o'r syniadau busnes yn ardderchog, ac mae rhai cynhyrchion masnachol sydd â photensial cryf wrthi’n cael eu datblygu. Fy mwriad yw gwneud Prifysgol Bangor yn un o sefydliadau mwyaf blaenllaw'r wlad o ran arloesedd ac entrepreneuriaeth. Byddwn yn annog yr holl ymgeiswyr i geisio cael cymorth pellach gan y brifysgol i ddatblygu eu syniadau entrepreneuraidd," meddai’r Is-ganghellor yr Athro John G. Hughes wrth gyflwyno’r gwobrau i’r enillwyr.
Y panel o feirniaid oedd yr Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor; Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Dylunio Pontio a Chris Walker, Cyfarwyddwr People Systems International.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013