Enwau'n datgelu diwylliant dringo'r 20fed ganrif yng Ngogledd Cymru
Yn ôl ymchwil newydd a gyflwynwyd i gynhadledd ryngwladol y Royal Geographical Society (gydag IBG) yn Llundain gall enw dringfa ddatgelu llawer iawn am yr adeg pryd y cafodd ei dringo gyntaf.
Mae enwau llwybrau dringo a ddringwyd gyntaf yn nechrau'r 20fed ganrif yn fwy tebygol o fod yn rhai disgrifiadol ond, yn ddiweddarach, daeth dringwyr yn llawer mwy chwareus wrth eu henwi - dyna ddywedodd Kate Lawrence o Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor wrth y gynhadledd.
"Yn aml iawn mae enwau dringfeydd a ddringwyd yn y 1920au a'r 1930au yn rhoi syniad i chi lle maent a sut i fynd atynt. Ond, erbyn y 1980au roedd diwylliant hedonistaidd wedi ennill ei blwyf ymysg rhai dringwyr yng Ngogledd Cymru a gwelir dylanwad hynny ar enwau llawer o ddringfeydd," meddai Kate.
Eto'i gyd, waeth pa mor amhriodol yw enw dringfa, anaml y mae'n cael ei newid neu ei ddiwygio. "Ym Mhrydain mae yna deimlad moesegol cryf mai'r cyntaf i lwyddo i ddringo dringfa sydd â'r hawl i'w henwi yn dâl am ei ymdrech. Yn fy mhrofiad i, nid yw hyn i'w weld mor amlwg o lawer ar gyfandir Ewrop," eglurodd Kate.
Daeth y pwyntiau a ganlyn i'r amlwg yn yr ymchwil hefyd:
v Po fwyaf y clogwyn, mwyaf tebygol ydyw y bydd yr enw'n dweud wrthych lle mae i'w gael
v Mae mwyafrif y dringfeydd a ddadansoddwyd wedi'u henwi naill ai ar ôl:
- Ffurf y graig neu nodweddion amgylcheddol
- Teimlad neu brofiad corfforol y ddringfa, sy'n aml yn farddonol ei natur
- Cyfeiriadau diwylliannol (e.e. ffilm, cân, llenyddiaeth)
v Gwelir thema'n aml wrth enwi clogwyni, sy'n awgrymu bod dringwyr yn ymwybodol iawn o hanes y mannau y maent yn dringo ynddynt
v Nid oedd yr un o'r dringfeydd a ddadansoddwyd wedi'i henwi gan ferched
v Mae tua chwech o ddringwyr benywaidd ym Mhrydain sydd wedi dringo dringfeydd am y tro cyntaf, gan enwi tua 84 o ddringfeydd rhyngddynt
Roedd yr ymchwil yn ymwneud â dadansoddi enwau 145 o ddringfeydd o bedwar clogwyn yng Ngogledd Cymru: Clogwyn Du’r Arddu, Chwareli Llechi Dinorwig, Dinas Cromlech a Bwlch y Moch yn Nhremadog.
Roedd enwau dringfeydd yn wreiddiol wedi'u nodi mewn llyfr a gedwid mewn tafarn leol, cyn cael eu cynnwys mewn arweinlyfrau lleol. Heddiw, mae gwefannau fel www.ukclimbing.com yn cadw cofnod o ddringfeydd a'u henwau.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2014