Enwebiad barddol o bwys i Athro o Brifysgol Bangor
Mae bardd ac ysgolhaig o Brifysgol Bangor wedi ei enwebu ar gyfer un o’r swyddi pwysicaf ac amlycaf ym myd barddoniaeth.
Mae Ian Gregson wedi ei enwebu ar gyfer swydd Athro Barddoniaeth Rhydychen (Oxford Professor of Poetry). Mae’r swydd hanesyddol ym Mhrifysgol Rhydychen yn swydd anrhydeddus ran-amser a ddyfarnwyd i rai o feirdd amlycaf y DU. Mae deiliad y swydd pum mlynedd yn rhoi tair darlith bwysig y flwyddyn ac araith yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol.
Creda Ian Gregson, sydd yn fardd, yn feirniad llenyddol ac yn athro ysgrifennu creadigol, ac sydd bellach yn Athro Emeritws Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, bod y symudiad tuag at ddiwylliant gweledol dros yr hanner can mlynedd diwethaf, yn gosod her i farddoniaeth. Mae’n dadlau ein bod yn rhoi mwy o werth ar fynediad rhwydd a ‘sydyn’, lle mae barddoniaeth yn gofyn am arafwch ac amser i astudio a chwilio am ystyr.
“Er bod barddoniaeth wych yn dal i gael ei hysgrifennu, tydi hi ddim bellach yn cael ei darllen gan bobol, sydd, mewn meysydd eraill, yn ymddiddori mewn llenyddiaeth gyfoes, diwylliant a’r celfyddydau. Gofynnwch i rywun sydd wedi darllen Wolf Hall gan Hilary Mantel, er enghraifft, neu sydd wedi bod i weld cynhyrchiad theatrig newydd, os ydynt wedi darllen barddoniaeth a ysgrifennwyd wedi 2000 ac mae’n bosib mai ‘erioed’ fydd yr ateb,” meddai.
Mae’r Athro Gregson yn dadlau dros roi amser i farddoniaeth fel ffurf berthnasol tu hwnt ar gelfyddyd - ac un sydd wedi dylanwadu ar y meddwl cyfoes mor ddiweddar â’r 1930au, pryd roedd diagnosis un Athro Barddoniaeth, W.H.Auden, o ‘a sickness in the heart of capitalism’ yn cael ei ddyfynnu’n aml. Nid oes amheuaeth na chafodd beirdd y Rhyfel Byd Cyntaf hwythau ddylanwad ar syniadaeth boblogaidd y cyfnod.
Llongyfarchwyd yr Athro Gregson gan yr Athro Helen Wilcox, Pennaeth yr Ysgol Saesneg ar gael ei enwebu ar gyfer swydd mor amlwg gan ddweud:
“Mae dysgu ysgrifennu creadigol yn un o’n cryfderau yn yr Ysgol ac Ian Gregson a fu’n arloesi yn y maes. Mae’r myfyrwyr sydd yn ysgrifennu ym Mhrifysgol Bangor heddiw yn elwa ar y traddodiad hwn ac yn cael eu dysgu am farddoniaeth gan lenorion sydd wedi ennill parch yn rhyngwladol, fel Carol Rumens a Zoë Skoulding.”
Rhaid i enwebiad ar gyfer y gadair dderbyn cefnogaeth hanner cant o leiaf o raddedigion Prifysgol Rhydychen. Cyhoeddir y canlyniadau ar Fehefin 19. Mae gwaith yr Athro Gregson i’w weld ar http://iangregson.co.uk/
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2015