Enwebu Prifysgol Bangor am dair wobr yn dilyn cydweithio â busnesau
Mae Prifysgol Bangor wedi ei henwebu ar gyfer tair gwobr yng ngwobrau Business and Education Awards y cwmni cyhoeddi Wales Business Insider a gynhelir yng Nghaerdydd ar 3 Tachwedd. Nod y gwobrau hyn yw tynnu sylw at y cydweithio llwyddiannus sy’n digwydd rhwng sefydliadau addysg Cymru ac economi’r wlad.
Yn ogystal â derbyn enwebiad ar gyfer gwobr Prifysgol y Flwyddyn a gwobr am y Barneriaeth Orau am ei gwaith gyda chwmni Horizon Nuclear Group, mae’r Brifysgol hefyd wedi ei henwebu am wobr y Broses Newydd orau, a hynny yn dilyn cydweithio llwyddiannus â chwmni cynhyrchu a dosbarthu cerddoriaeth Gymraeg.
Bu’r Dr Steffan Thomas, sydd bellach yn ddarlithydd yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau y Brifysgol, yn gweithio â chwmni Sain (Recordiau) Cyf fel rhan o raglenni Knowledge Transfer Partnership (KTP) a Knowledge Economy Skills Scholarship (KESS) – ill dwy yn rhaglenni cenedlaethol sy’n hybu trosglwyddo arbenigeddau academaidd er budd yr economi drwy gydweithio â busnesau a chwmniau lleol.
Nod y project KTP oedd arwain Sain (Recordiau) Cyf at y farchnad e-werthu a dan arweiniad Dr Thomas, datblygwyd gwefan newydd a sefydlwyd partneriaethau ar gyfer dosbarthu digidol ar draws yr holl blatfformau gwerthu mawr megis iTunes, Amazon a Spotify. O ganlyniad i’r newidiadau a wnaethpwyd i strwythur ddata y catalog digidol – sy’n cynnwys dros 18,000 o draciau unigol – mae’r gerddoriaeth bellach ar gael gan y cwmnïau dosbarthu o fewn 4 diwrnod wedi i albwm gael ei rhyddhau.
Fel rhan o’r project KESS gyda’r cwmni, bu Dr Thomas yn cynnal ymchwil dwys ar agweddau penodol o weithgaredd Sain (Recordiau) Cyf, megis e-farchnata, ymddygiad cwsmeriaid, cyfraith hawlfraint, cerdd-ladrad, modelau busnes newydd ac adolygu gweithgareddau’r cyfryngau eraill. Ar ôl casglu a dadansoddi ymatebion 1,500 o bobl, defnyddiwyd y data er mwyn datblygu model busnes newydd a fyddai’n gweddu i gwmni cynhyrchu o faint Sain (Recordiau) Cyf ac sy’n gweithio’n bennaf oddi mewn i iaith leiafrifol.
Prif ganlyniad y cydweithio hwn rhwng Prifysgol Bangor a chwmni Sain (Recordiau) Cyf oedd datblygu a lansio gwefan newydd sbon yn ogystal â phorth e-werthu newydd. Mae’r datblygiadau hyn wedi arwain at gynnydd o 70% mewn gwerthiant digidol yn ystod y 12 mis cyntaf a 15% yn flyddynol wedi hynny.
Meddai Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Sain (Recordiau) Cyf:
“Mae’r berthynas gyda Phrifysgol Bangor a’r Dr Steffan Thomas wedi ein galluogi ni yma yn Sain i fentro yn hyderus, trosglwyddo ein cynnyrch a’n gwasanaethau i’r fformatau digidol ac i lansio gwasanaeth ffrydio newydd o’r enw Apton. Mae’r datblygiadau hyn yn allweddol wrth geisio diogelu’r diwydiant cerdd yng Nghymru.”
Gan edrych ymlaen at y gwobrau ar 3 Tachwedd, meddai’r Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
“Mae cael ein henwebu ar gyfer y gwobrau hyn yn tystio i’r effaith y gall ein hymchwil ni ei gael ar yr economi leol a chenedlaethol. Drwy weithio â busnesau a dangos perthnasedd ein ymchwil yn y byd go-iawn, rydym yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad y rhanbarth yma fel canolbwynt ar gyfer arloesi a mentergarwch.”
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016