Enwi darlithydd o Fangor yn un o’r goreuon ym Mhrydain
Llongyfarchiadau i Sarah Nason, Darlithydd yn y Gyfraith, am gyrraedd rownd derfynol yng nghystadleuaeth OUP ar gyfer Athro Cyfraith y Flwyddyn.
Er mai Luke Mason o Brifysgol Surrey aeth â hi, bu’r gystadleuaeth yn dynn, a chanmolwyd y cyfan o’r chwech a gyrhaeddodd y rownd derfynol am ansawdd gwych eu gwaith addysgu.
Eleni, cafwyd y nifer uchaf erioed o enwebiadau gan fyfyrwyr yn y Gyfraith mewn sefydliadau o bob cwr o’r DU. Yna, cafodd y chwech olaf ymweliad gan banel o feirniaid, a fu’n eu harsylwi’n addysgu ac yn siarad â’u myfyrwyr a’u cydweithwyr.
“Dwi wedi gwirioni’n lân mod i wedi cael fy rhoi ar y rhestr fer, ac wrth gwrs, dwi’n hynod ddiolchgar i’r myfyrwyr a’r cydweithwyr a roddodd eu hamser i’m henwebu”, meddai Sarah ynglŷn â’u henwebiad. “Rydw i wedi ceisio cael cydbwysedd yn fy nysgu bob amser, rhwng paratoi myfyrwyr at arholiadau a’u paratoi at fyd go iawn ymarfer cyfreithiol. Mae cael fy rhoi ar y rhestr fer mewn gwirionedd yn adlewyrchiad ar haelioni myfyrwyr y gyfraith ym Mangor ac ansawdd uchel y dysgu sy’n cael ei wneud gan gydweithwyr yn holl feysydd Ysgol y Gyfraith.”
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2014