Erthyglau ar wella awyru mewn cartrefi plant sy’n dioddef o asthma
Mae dwy erthygl yn y British Journal of General Practice wedi cael eu hysgrifennu ar y cyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Bangor. Bu aelodau’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Moddion y Brifysgol yn gweithio gyda chydweithwyr Tîm Iechyd y Cyhoedd Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Prifysgolion Caerdydd, Bangor a Lerpwl, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymchwil sy'n ymwneud ag asthma mewn plant ysgol.
Mae’r British Journal of General Practice wedi cyhoeddi dwy erthygl a ysgrifennwyd gan aelodau o Dîm iechyd Cyhoeddus Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Prifysgolion Caerdydd, Bangor a Lerpwl, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae’r erthygl gyntaf yn disgrifio hap-dreial amlasiantaeth wedi’i reoli a gynhaliwyd i brofi effeithiau gwella systemau awyru a gwresogi yng nghartrefi plant ysgol sy’n dioddef o asthma. Mae’r gwaith ar y treial eisoes wedi ennill Gwobr Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus y DU a chyrhaeddodd restr fer Gwobrau GIG Cymru 2009 hefyd.
Roedd y treial ‘Children’s Health in Asthma: Research to Improve Status through Modifying Accommodation (CHARISMA)’ yn dreial ar y cyd rhwng llywodraeth leol, y GIG a chydweithwyr academaidd. Yn ogystal â chreu prosiect ymchwil i gasgu tystiolaeth yn y meysydd iechyd a thai a gwella iechyd a lles plant ysgol sydd ag asthma, mae CHARISMA hefyd yn edrych ar ffyrdd mwy effeithiol a gwahanol o ddarparu gwasanaethau awdurdodau lleol er mwyn gwella iechyd a lles ac yn ategu gwasanaeth gofal iechyd presennol a ddarperir mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd.
Dechreuodd treial CHARISMA yn 2004 pan gafodd teuluoedd cymwys eu nodi a’u recriwtio. Edrychodd y treial ar effeithiolrwydd gwella systemau awyru ac mewn rhai achosion wres canolog, yng nghartrefi plant a chanddynt asthma cymedrol neu ddifrifol. Roedd yn cynnwys bron 200 o blant a nodwyd drwy feddygfeydd teulu yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cafodd cartrefi’r cyfranogwyr eu harolygu gan yr awdurdod lleol cyn cael eu rhannu ar hap yn grwpiau a fyddai wedi cael gwell systemau awyru a gwresogi ar unwaith (grŵp ymyriadau) neu a fyddai’n gofod aros am 12 mis i welliannau gael eu gwneud (grŵp rheoli). Nod y treial oedd gweld p’un a oedd gwelliannau mewn awyru a gwresogi cartrefi plant sy’n dioddef o asthma yn cael effaith ar asthma’r plant a hefyd ar ansawdd cyffredinol eu bywydau a’u lles.
Daw’r astudiaeth i’r casgliad bod gosod systemau awyru a gwres canolog yn gwella ansawdd bywydau plant a chanddynt asthma cymedrol neu ddifrifol yn sylweddol. Roedd problemau iechyd corfforol a seicogymdeithasol y plentyn yn gwella hefyd. Yn ogystal gallai’r ymyriad leihau absenoldeb o’r ysgol a gwella iechyd brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o’r cartref.
Mae’r ail erthygl a gyhoeddwyd yn disgrifio astudiaeth o gost-effeithiolrwydd a gynhaliwyd ochr yn ochr â’r hap-dreial wedi’i reoli. Arweinwyd yr astudiaeth ar gost effeithiolrwydd gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Moddion, IMSCaR. Canfu fod ymagwedd wedi’i theilwra fel hon tuag at wella tai plant a chanddynt asthma cymedrol i ddifrifol yn debygol o fod yn ddefnydd da a chost-effeithiol o adnoddau cyhoeddus.
Yn dilyn canlyniadau cadarnhaol y treial, yn ystod 2010/2011 cafodd 50 o gartrefi eu haddasu drwy gysylltu â phob meddygfa yn Wrecsam ac yn ystod 2011/2012 bydd 15 o gartrefi eraill yn cael eu haddasu.
Meddai Louise Woodfine, Prif Swyddog Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae hwn yn brosiect arloesol a chost-effeithiol sydd wedi gwella asthma ymysg plant ac ansawdd cyffredinol eu bywydau ac sydd wedi dangos manteision gwirioneddol gweithio mewn partneriaeth rhwng llywodraeth leol, y GIG a’r byd academaidd. Gall asthma gael effaith drychinebus ar blant a’u teuluoedd ac mae’n hawdd diystyru’r effaith hon. Mae gan CHARISMA y potensial i wella bywydau miloedd o blant sy’n dioddef o asthma a’u teuluoedd yn ogystal â helpu i atal plant rhag cael eu hanfon i’r ysbyty bob blwyddyn.
Dolenni:
- I ddarllen yr erthyglau llawn yn y British Journal of General Practice, Tachwedd 2011, ewch i (bydd angen mynediad i Athens arnoch): http://www.rcgp.org.uk/brjgenpract.aspx
- Tîm Wrecsam yn ennill Gwobr y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (Chwefror 2010): http://howis.wales.nhs.uk/sitesplus/888/news/23488 (Saesneg yn unig)
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2012