Esgoblyfr Bangor ar y We: Cam Un wedi’i orffen
Mae Project Esgoblyfr Bangor newydd gyrraedd ei garreg filltir gyntaf bwysig, union flwyddyn ar ôl lansio’r cynllun fel partneriaeth rhwng y Brifysgol a’r Eglwys Gadeiriol i sicrhau cadwraeth dymor-hir llawysgrif fwyaf gwerthfawr Bangor o’r cyfnod canoloesol. Yn ystod y cam cyntaf, a gyllidwyd â grant gan y Cynulliad, gwnaed gwaith cadwraeth ar yr Esgoblyfr a’i ailrwymo a digideiddiwyd ei 340 o dudalennau. Tynnwyd lluniau o’r llawysgrif gan y Digital Image Archive of Medieval Music (DIAMM) y gwanwyn diwethaf, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, a gall gwylwyr yn awr edrych ar y delweddau rhagorol a hynod glir drwy wefan Project Esgoblyfr Bangor – gwefan y gall unrhyw un ei defnyddio.
Dychwelwyd y llawysgrif ei hun i Archifau’r Brifysgol yr wythnos ddiwethaf o’r Uned Gadwraeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle roedd wedi cael ei hadfer yn llwyr a darparu clawr croen gafr newydd yn y dull canoloesol iddi. Caiff ei dychweliad ei ddathlu’n gyhoeddus mewn gwasanaeth cyflwyno arbennig yn Eglwys Gadeiriol Bangor ddydd Sul, 6 Chwefror 2011 ym mhresenoldeb Esgob presennol Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John.
Mae ail gam Project Esgoblyfr Bangor wedi hen ddechrau bellach, a phenllanw hyn fydd lansio gwefan ar ei newydd wedd. Bydd hon nid yn unig yn bwysig ar gyfer ymchwil ar lefel uwch, ond bydd hefyd yn pwysleisio treftadaeth ac addysg. Yn raddol bydd trawsgrifiadau cyfochrog cyflawn o destun a cherddoriaeth yr Esgoblyfr, cyfieithiadau, esboniadau, a ffeiliau sain o rai o’r alawon plaengan, yn cael eu hychwanegu at y safle. Paratoir peth o’r deunydd gyda chymorth gan fyfyriwr PhD cysylltiol y Project, Christopher Edge, sy’n cael ei gyllido gan un o fwrsariaethau’r canmlwyddiant a chwarter. Bydd y safle hefyd yn cynnwys offer dysgu rhyngweithiol ar gyfer myfyrwyr palaeograffeg, hanes yr eglwys, cerddoriaeth, addoli a chelf, ynghyd ag adnoddau arbennig ar gyfer ymwelwyr a phlant ysgol. Bydd ciosg sgrin-gyffwrdd, a fydd wedi’i chysylltu’n barhaol â’r safle, yn cael ei osod yn Eglwys Gadeiriol Bangor.
Dethlir cynnydd y project hefyd eleni yn Narlith y Gronfa Gelf (Dydd Mercher, 27 Hydref, 6.30 pm). Bydd Dr Lynda Dennison FSA, aelod o’r Cambridge Illuminations Project, yn defnyddio’r delweddau wedi’u digideiddio yn ystod ei thrafodaeth ar y pwnc ‘A Rare Survival: the Bangor Pontifical and its relationship to East Anglian and London Manuscript Production in the first quarter of the Fourteenth Century’. Mae croeso cynnes i bawb.
Am fanylion pellach am y project, gweler y wefan
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2010