EwrOlwg: Sut mae eraill wedi gweld Cymru
Ydych chi erioed wedi ystyried sut mae eraill yn ein gweld?
Bydd arddangosfa gyhoeddus newydd, sydd yn defnyddio ymchwil o Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor, yn edrych ar sut mae ymwelwyr o Ewrop - yn cynnwys fforwyr, twristiaid a ffoaduriaid - wedi edrych ar Gymru ers canol y ddeunawfed ganrif.
Enw’r Arddangosfa yw EwrOlwg: Cymru drwy lygaid ymwelwyr o Ewrop, 1750–2015, ac mae yn Storiel newydd y ddinas o fis Ebrill hyd at 2 Gorffennaf.
Bydd yr arddangosfa’n dangos amrywiaeth eang o weithiau gan artistiaid o’r Swistir, Gwlad Belg, Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Awstria a Gwlad Pwyl o’r cyfnod Rhamantaidd hyd at y presennol.
Mae’r lluniau hyn yn dangos Cymru mewn amrywiol weddau, o dirluniau delfrydol i ganolfannau diwydiannol a phortreadau o’r bobl sy’n byw yng Nghymru.
Sail yr arddangosfa yw project ymchwil sydd yn edrych ar ddisgrifiadau o Gymru a Chymreictod mewn ysgrifau teithio Ewropeaidd rhwng 1750 a 2010.
Mae’r project yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Fe'i cyllidir gyda grant sylweddol gan yr AHRC.
Mae’r project tair blynedd eisoes wedi canfod dros 360 o adroddiadau taith gan ymwelwyr o dir mawr Ewrop yn disgrifio eu teithiau yng Nghymru ers canol y ddeunawfed ganrif. Mae EwrOlwg yn ategu’r adroddiadau hyn gan edrych ar weithiau celf sydd wedi’u hysbrydoli gan dirluniau, safleoedd diwydiannol a phobl Cymru.
Bu ymwelydd o'r Eidal yn 1909 cofio'i daith i Ddolwyddelan, lle daeth ar draws angladd:
“Un noson wlyb, fe gyrhaeddais yno ac roedd angladd yn cael ei gynnal. Roedd grŵp bychan o amgylch y bedd, mewn nyth o laswellt ac yn cael eu cysgodi gan goed hardd, yn canu.
Mor aml yr ydym mewn dyled fawr i bobl nad ydynt yn gwybod dim am y peth! Roeddwn i a fy nghyfaill annwyl yn ein dagrau y noson lwydaidd honno, ac ni chlywn fyth gerddoriaeth fwy argyhoeddiadol nag a glywsom y noswaith honno. Mae’r Cymry’n bobl mor gerddorol.”
Roedd ffoaduriaid yn un o’r prif grwpiau a deithiodd i Gymru yn ystod yr ugeinfed ganrif ac mae Storiel hefyd yn dangos arddangosfa Arsylwadau, gwaith yr arlunydd Karel Lek o Wlad Belg a ddaeth i ogledd Cymru fel ffoadur yn 1940.
Wrth sôn am yr arddangosfa, eglurodd prif ymchwilydd y prosiect, yr Athro Carol Tully o Brifysgol Bangor:
“Mae hwn yn gyfle rhyfeddol i ni ddod â’n hymchwil gerbron cynulleidfa ehangach a dangos pa mor amrywiol fu’r olwg Ewropeaidd ar Gymru dros amser.”
Gan gadw at ysbryd y project, mae’r arddangosfa yn teithio drwy Gymru ac mae wedi ymweld ag Aberystwyth ac Abertawe cyn dod i Fangor.
Rita Singer, Cynorthwyydd Ymchwil y prosiect, a drefnodd yr arddangosfa gyda chymorth hael Amgueddfa Ceredigion. Wrth sôn am y casgliadau, dywedodd:
“Mae EwrOlwg yn gyfle unigryw i ymwelwyr â’r amgueddfa weld gweithiau celfyddydol o gyfandir Ewrop sydd wedi’u casglu gan amrywiol sefydliadau yma yng Nghymru ond nad ydyn nhw’n cael eu harddangos yn aml. Mae’n debygol mai dyma’r tro cyntaf a’r unig dro y caiff pobl gyfle i weld darlun o Ddolgellau yn ystod y 1770au gan artist o’r Swistir ochr yn ochr â golygfa o ysbyty o’r ugeinfed ganrif gan beintiwr o Wlad Belg. Mae’r amrywiaeth o arddulliau, pynciau a chefndiroedd cenedlaethol yn golygu bod hon yn arddangosfa gyffrous iawn.”
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2016