“Exploring the Human Mind with Brainwaves” yn denu cynadleddwyr o bedwar ban y byd
Yn rhan o ddathliadau 50-mlwyddiant yr Ysgol, parhaodd yr Ysgol Haf ERP hon draddodiad yr Ysgolion Haf tra llwyddiannus a phoblogaidd a gynhelir yn yr Ysgol Seicoleg. Daeth gormod o geisiadau i law am le yn yr Ysgol Haf, a ddenodd ysgolheigion o’r Deyrnas Unedig, Ewrop ac mor bell ag Awstralia, UDA a De America – cyfranogwyr a oedd â diddordeb mewn dysgu o arbenigedd byd-enwog Seicoleg ym Mangor ym maes ymchwil ERP. Dysgodd y cynadleddwyr sut i gynnal, dadansoddi a dehongli astudiaethau ar bosibiliadau cysylltiedig â digwyddiadau mewn meysydd seicolegol megis cof, datblygiad, ymwybyddiaeth ofalgar, iaith, a dirnadaeth a gwybyddiaeth. Ar sesiynau ymarferol a phrofiadau ymarferol yr oedd y pwyslais, o ran dadansoddi posibiliadau cysylltiedig â digwyddiadau.
Meddai Dr Stephen Boehm, trefnydd y cwrs, “Roedd hi’n bleser mawr dod â’n harbenigwyr lleol gwych mewn ymchwil ERP ynghyd er mwyn cynnal rhaglen gynhwysfawr ar theori ac ymarfer ymchwil flaengar mewn ERP. Daeth ymchwilwyr i’r gynhadledd, a’r rheiny’n amrywio o fyfyrwyr PhD hyd at athrawon a ddaeth o’r DU, o Ewrop, yn ogystal ag o Awstralia ac America. Cawsom hefyd grŵp mawr o gynadleddwyr o’n Hysgolion Seicoleg cyfrannog yn Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru, a’r rheiny o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Rydym yn gobeithio y bydd cyfranogwyr yn yr Ysgol Haf yn mynd ag atgofion pleserus am yr Ysgol a Bangor, ac y bydd eu profiad o gyfranogi yn cyfrannu at eu datblygiad gyrfaol yn y dyfodol.”
Adleisio sylwadau Dr Boehm wnaeth y cynadleddwr oedd wedi teithio bellaf, gan ddweud, “Dysgais gymaint am gynnal arbrawf ERP mewn un wythnos yn yr Ysgol Haf ac y byddwn wedi dysgu mewn tri mis yn gweithio ar fy mhen fy hun. Ar ben hynny, diolch yn bersonol i holl staff Seicoleg Bangor am eu gwaith caled a’u harddull cyfeillgar a hamddenol ... Roedd y cwrs yn gyffrous ar ei hyd, fel bod y crynswth o brofiad gymaint yn well ac yn werth hedfan hanner ffordd o gwmpas y byd ar ei gyfer.” – Mark Kohler (Darlithydd, Prifysgol De Awstralia).
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2013