F1 mewn ysgolion - Rownd Derfynol Ranbarthol 2015
Yn ddiweddar, bu i’r adran Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor gynnal rownd Derfynol Ranbarthol F1 Gogledd Cymru. Yn y gystadleuaeth Fformiwla 1 boblogaidd hon daeth naw ysgol uwchradd leol at ei gilydd i gystadlu am leoedd yn Rownd Derfynol Genedlaethol y Deyrnas Unedig a gynhelir ym mis Mawrth. Os byddant yn llwyddiannus, byddant wedyn yn cymryd rhan yn Rownd Derfynol y Byd F1 mewn Ysgolion 2015 a gynhelir yn Singapore.
Mae'r gystadleuaeth wedi'i rhannu’n dri dosbarth - Dosbarth Fformiwla 1, Dosbarth Rookie F1 a Dosbarth Bloodhound, gyda phob dosbarth yn dylunio car F1 i raddfa ar gyfer y dyfodol.
Y rhai buddugol yn Rownd Derfynol Gogledd Cymru oedd:
Dosbarth F1 | Tîm Tachycon F1 | Ysgol Uwchradd Dinbych |
Dosbarth Bloodhound | Tîm Limitless F1 | Ysgol Uwchradd Cei Connah |
Dosbarth F1 Rookie | Tîm Tyrbo | Ysgol Gyfun Llangefni |
Mae’r F1 mewn Ysgolion yn her amlddisgyblaethol lle mae timau o ddisgyblion rhwng 9 ac 19 oed yn cydweithio i ddylunio, dadansoddi, cynhyrchu, profi ac yna rasio ceir F1 pren balsa bychan sy'n gweithio ar nwy. “Mae’r her yn ysbrydoli disgyblion i ddefnyddio TG i ddysgu am ffiseg, aerodynameg, dylunio, gweithgynhyrchu, brandio, graffeg, nawdd, marchnata, arwain/gwaith tîm, sgiliau cyfryngau a strategaeth ariannol a'u cymhwyso mewn ffordd ymarferol, ddychmygus, gystadleuol a chyffrous.” Mae timau'n cael eu beirniadu ar gyflymder y car, yn ogystal â thystiolaeth gefnogol o'r gwaith dylunio, y cyflwyniad llafar, a'r stondinau marchnata.
Trefnir y gystadleuaeth gan Gynllun Addysg Beirianneg Cymru; meddai Bob Cator, Prif Weithredwr: "Diwrnod llwyddiannus iawn eto eleni. Diolch i'r beirniaid am eu gwaith trylwyr, ac i'r athrawon am eu holl ymroddiad i gefnogi'r disgyblion. Beth am i ysgolion eraill i ymuno efo ni am ddiwrnod o hwyl a datblygu pynciau STEM!"
Meddai Dewi Rhys Rowlands, Cyfarwyddwr y Cwrs Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor:
“Unwaith eto, roedd ansawdd y gwaith a gynhyrchwyd gan ysgolion uwchradd yn rhagorol. Mae achlysur o’r math yma’n rhoi sylw i feysydd dylunio, peirianneg a thechnoleg ar eu gorau. Mae brwdfrydedd trefnwyr y gystadleuaeth F1, y staff, yr ysgolion sy'n cymryd rhan a’r disgyblion eu hunain wedi bod yn wych unwaith eto eleni.
“Mae’r digwyddiad F1 mewn ysgolion yn gyfle gwych sy’n ysbrydoli disgyblion ifanc i gymryd mwy o ddiddordeb ym maes dylunio cynnyrch a pheirianneg mewn ffordd ymarferol, gyffrous a llawn dychymyg, ac yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau ehangach fydd yn eu helpu i gael swyddi.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2015