Fe all llyfr newydd gyfranu at ddiogelu henebion Cymru
Mae Athro ym Mhrifysgol Bangor newydd gyhoeddi'r drydedd gyfrol a'r olaf mewn cyfres o lyfrau sy'n rhoi golwg gwerthfawr i ni ar henebion yr oesoedd canol cynnar yng Nghymru.
Mae'r awdur, yr Athro Nancy Edwards yn disgrifio A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales Volume III, North Wales, fel deunydd darllen hanfodol i bawb sydd yn ymddiddori yng ngherflunwaith yr oesoedd canol cynnar ym Mhrydain ac Iwerddon a'i gobaith hi yw y bydd y gyfrol yn gwneud cyfraniad at ddiogelu henebion Cymru.
Mae'r llyfr, yr olaf o dair cyfrol am ranbarthau gwahanol, yn edrych ar henebion arysgrifedig a cherflunwaith carreg Cristnogol gogledd Cymru. c AD 400–1150. Mae'n rhoi golwg gwerthfawr ar archaeoleg, celf, hanes, ieithoedd a diwylliant y cyfnod ac mae'n ddeunydd darllen hanfodol i bawb sydd yn ymddiddori yng Nghymru'r oesoedd canol cynnar.
Meddai'r Athro Edwards: “Mae'r gyfrol hon yn rhoi golwg newydd i ni ar dros 150 o henebion, ac yn eu dehongli o'r newydd. Mae'n olrhain datblygiad Cristnogaeth yng Nghymru, ac fel y bu iddi newid y dirwedd dros amser.
"Mae'n cynnwys trafodaeth ragarweiniol sy'n dadansoddi cyd-destun hanesyddol ac archaeolegol yr henebion, ymchwil gynharach, daeareg, ffurf a swyddogaeth, addurniadau ac iconograffeg, iaith a dull llythrennu'r arysgrifau, yn ogystal â chysylltiadau diwylliannol, dyddiadau a chronoleg. Mae'r catalog yn llawn darluniau ac yn disgrifio a dadansoddi henebion unigol yn fanylach."
Ychwanegodd: "Mae rhai o'r henebion a restrir yn y llyfr hwn nad ydynt wedi eu hamddiffyn hyd yn oed, ac ers ysgrifennu'r llyfr hwn rydym wedi creu rhestr o henebion sydd mewn peryg er mwyn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu cadw a'u harddangos at y dyfodol. Rydym yn gweithio yn awr gyda Phanel Cenedlaethol Cymru ar Gerflunwaith yr Oesoedd Canol Cynnar a CADW, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn at y dyfodol."
"Rydw i'n teimlo boddhad aruthrol o gwblhau'r drydedd gyfrol, o gofio fy mod i wedi dechrau gweithio ar y project hwn yn 1996, ond brysiaf i ychwanegu bod y gyfrol hon yn ffrwyth ymdrech tîm a bod yr ymchwil wedi cael ei gwneud mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru: Ni allwn i fyth fod wedi ei wneud heb y tîm, sy'n cynnwys Jana Horák, Heather Jackson, Helen McKee, David N. Parsons a Patrick Sims-Williams.”
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2013