Fe fydd Ombwdsman Caffael Canada ymysg y Siaradwyr o 16 o wahanol wledydd sy’n mynychu Cynhadledd Gaffael enfawr Ysgol y Gyfraith.
Rhwng 18-22 Mawrth, bydd Ysgol y Gyfraith Bangor yn croesawu dros 250 o fusnesau a chyrff cyhoeddus pan fydd nifer o arbenigwyr rhyngwladol ym maes caffael yn ymgynnull yn Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor.
Yn rhedeg dros bum niwrnod, fel rhan o brosiect Ennill wrth Dendro, prosiect sydd yn cael ei gyllido gan INTERREG drwy gydweithrediad rhyngwladol rhwng Bangor, DCU ac IIPMM, mae’r Wythnos Gaffael yn croesawu pobol blaenllaw o’r byd caffael byd-eang, gan gynnwys Anders Jessen, o’r Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel; yr Athro George Schooner, Prifysgol George Washington; Frank Brunetta, Ombwdsman Canada; Rheolydd Gwrth-Fonopoli Rwsia, Andrei Yunak; John McClelland (awdur yr Adroddiad McClelland arloesol); a’r Barnwr enwog Barnwr Bernard McCloskey. Bydd hefyd siaradwyr o India, Brasil, Tseina a’r Iwerddon.
Mae’r Wythnos yn terfynu gyda’r Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymreig gyda’r Gweinidog Jane Hutt.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013