Ffair Cymru, Ewrop a'r Byd yn cael ei chynnal ym Mangor
Cynhaliwyd ffair Llwybrau at Ieithoedd – Cymru, Ewrop a’r Byd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Daeth bron i 150 o ddisgyblion sydd eisoes wedi dechrau, neu ar fin dechrau astudio cyrsiau Bagloriaeth Cymru i ddigwyddiad Cymru, Ewrop a'r Byd. Nod y diwrnod oedd helpu disgyblion i ddarganfod mwy ynghylch gweithio, astudio a theithio yn Ewrop a thu hwnt, a dysgu sut y gall siarad iaith arall eu galluogi i gael y mwyaf o’r profiad.
Yn dilyn anerchiad agoriadol symbylol gan Bennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern (YIM), Dr Anna Saunders, bu'r disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod o weithdai a sesiynau gwybodaeth gan gynnwys gemau, dawns, gyrfaoedd, sesiynau blasu iaith a gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch astudio a gweithio yng Nghymru neu dramor. Darparwyd yr arlwy amrywiol hwn gan Signature Leather, Goethe Institut, Athrofa Confucius Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, Europe Direct Wrecsam a Llangollen, Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru, yn ogystal â staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor: Dr Jonathan Ervine (Cwis Ewrop), Susie Turnbull (ei phrofiad dramor), Mattia Marino (Dawns Dienw amlieithog), Stefanie Kreibich (sesiwn blasu Almaeneg), Nestor Vinas-Guasch (sesiwn blasu Sbaeneg) a Maria Cristina Seccia (sesiwn blasu Eidaleg).
Bu tîm o fyfyrwyr YIM Bangor yn arwain y gweithdy gemau iaith, a chyfrannwyd at rediad esmwyth y digwyddiad gan dîm o stiwardiaid wedi'u recriwtio gan fwyaf o blith myfyrwyr Bangor. Cafwyd cefnogaeth lawn gan Cilt Cymru, Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor a Choleg Cymraeg Cenedlaethol.
Yn dilyn y digwyddiad roedd adborth gan y disgyblion a'u hathrawon yn hynod o gadarnhaol. Cydnabuwyd pob un o'r gweithdai am ymdrin ag ieithoedd mewn ffordd hwyliog a defnyddiol, a dywedodd nifer fawr o'r disgyblion y byddent wedi hoffi cael mynd i fwy o weithdai (a hirach), ac y byddent yn sicr yn dod i ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol. Roedd y disgyblion yn amlwg wedi cael eu symbylu, ac ar ddiwedd y diwrnod dywedodd 93% ohonynt yr hoffent naill ai barhau i ddysgu neu ddechrau dysgu un neu fwy o ieithoedd tramor.
Lluniau o’r digwyddiad ar gael yma:
http://www.flickr.com/photos/routesintolanguages/sets/72157634528940171/
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2013