Ffair Swyddi Cymraeg
Mae’r Ffair Swyddi Cymraeg yn gyfle i gyfarfod cyflogwyr o amryw o sectorau sy’n ystyried sgiliau Cymraeg yn bwysig yn y gweithle. Bydd hwn yn gyfle i rwydweithio a chael gwybodaeth am gyfleoedd gwaith graddedig, rhan amser, a gwirfoddol. Y bwriad yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddeall yn well pwysigrwydd sgiliau Cymraeg yn y gweithle a’r ystod o swyddi sydd yn gofyn am y sgiliau hynny. Bydd cyfle i fyfyrywr gael cyngor am eu cyflogadwyedd yn gyffredinol hefyd. Bydd rhywbeth i bawb!
Mae’r Ffair yn cael ei chynnal ddydd Mawrth, 21 Mawrth 2017 rhwng 12yp-2yp yn Undeb y Myfyrwyr, Pontio
Dyma rai o’r cyflogwyr fydd yn arddangos yn ystod y Ffair Swyddi Cymraeg:
- Portmeirion Cyf.
- Urdd Gobaith Cymru
- Swyddle
- BBC Cymru
- Storiel (Amgueddfa ac Oriel Gwynedd)
- Partneriaeth Awyr Agored
- Cymdeithas Alzheimer’s
- Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Cyngor Gwynedd
- Cartrefi Cymunedol Gwynedd
- Parc Cenedlaethol Eryri
- Santander
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2017