Ffair Swyddi yn lwyddiant
Cynhaliwyd Ffair Swyddi lwyddiannus iawn yn ddiweddar (28/09/16) yn Neuadd PJ ym Mhrifysgol Bangor. Cafwyd dros 45 o stondinau gyda chyflogwyr graddedigion, cwmnïau lleol a gwasanaethau gwirfoddol yn bresennol.
Fe ddaeth dros 1350 trwy ‘r drysau yn cynnwys myfyrwyr a nifer helaeth o geiswyr swyddi lleol. Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn y Brifysgol a Swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau/Ganolfan Waith.
Fel rhan o’r ddarpariaeth trefnwyd hefyd sesiynau gwybodaeth ar wahanol destunau megis llunio CV, dulliau cyfweld a recriwtio digidol ynghyd a digwyddiad penodol am gyflogadwyedd i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
Fe gredodd un cyflogwr lleol (Oriel Môn) fod y digwyddiad yn un effeithiol tu hwnt oherwydd darparwyd cynulleidfa cymysg “nas ellir ei gyrraedd drwy ddulliau marchnata traddodiadol.”
Fe ychwanegodd Pennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol, Chris Little, ei fod yn “croesawu’r math hwn o ddigwyddiad ar y cyd i hybu cysylltiadau agosach rhwng y Brifysgol, cyflogwyr lleol a chenedlaethol â’r gymuned lleol ehangach.” Cytunodd cydweithwyr yn y Ganolfan Waith fod nifer dda o’i cwsmeriaid hwythau a myfyrwyr wedi mynychu’r digwyddiad ac “edrychant ymlaen i atgyfnerthu’r gwaith ar y cyd gyda’r Brifysgol drwy drefnu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016