Ffair y Gyfraith ym Mangor yn amlygu cyfleoedd cyflogaeth i raddedigion
Fel rhan o’i dathliadau deng mlynedd mewn bodolaeth, fe fydd Ysgol y Gyfraith Bangor (Gwynedd) yn cynnal Ffair y Gyfraith ar ddydd Mercher, 19 Tachwedd 2014, rhwng 9.45am tan 3.30pm. Bwriad y Ffair yw i ddod â myfyrwyr y Gyfraith ym Mangor a chyflogwyr ynghyd mewn amgylchedd fydd yn creu canlyniadau cyd-fanteisiol.
Mae’r Ffair y Gyfraith yn gyfle i unrhyw un, o fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith, i ddisgyblion ysgolion uwchradd, i rai sy’n cynnig cyfleodd gyrfa, ac unrhyw un arall fyddai â diddordeb mewn gweld pa fath o yrfaoedd yn y Gyfraith sydd ar gael i’r rhai hynny sydd â gradd yn y Gyfraith.
Fel yr eglurodd Dr Mark Hyland, darlithydd yn Ysgol y Gyfraith, ac aelod o’r Pwyllgor Cyflogadwyedd:
“Mae dewisiadau gyrfa yn llawer ehangach na’r opsiynau amlwg o gyfreithiwr neu bargyfreithiwr. Er enghraifft, mae rhai o’n graddedigion diweddar wedi cael swyddi fel: gweision sifil (yn y Llywodraeth yng Nghymru a Llywodraeth Leol); ymgynghorydd cyfreithiol i Wasanaeth yr Ombwdsman ar gyfer Cyllid (Llundain); ac ymgynghorydd cyfreithiol mewn asiantaeth sy’n arbenigo ar gasglu dyledion, i enwi ond rhai.”
Eleni, fe fydd Ffair y Gyfraith yn fwy ac yn well na’r un y llynedd, ac yn ymddangos ei bod yn denu nifer uchel o gyfranogwyr. Bydd Ffair y Gyfraith yn nodweddu cyflogwyr blaenllaw, megis cwmnïau cyfreithiol – Silverman Sherliker (Llundain); EAD (Lerpwl); Hugh James (Caerdydd) a Gamlins (Gogledd Cymru). Fe fydd siambrau enwog bargyfreithwyr – Siambr Linenhall o Gaer a Civitas o Gaerdydd; banciau megis HSBC, Advent Mediation a Gwasanaeth Prawf Gwynedd yn cymryd rhan. Yn ogystal â rhoi pwyslais ar yrfaoedd traddodiadol cyfreithiol ar gyfer graddedigion y Gyfraith (e.e. cyfreithwr neu bargyfreithiwr), fe fydd y Ffair hefyd yn amlygu llwybrau nad ydynt yn draddodiadol i raddedigion y Gyfraith. Mae esiamplau yn cynnwys: gwaith gwasanaeth sifil yn y sefydliadau Undeb Ewropeaidd (yn bennaf Brwsel, Strasbourg a Luxembourg); rôl ymgynghorydd cyfreithiol yn y sector yswiriant, a gyrfa swyddog prawf yn y Gwasanaeth Prawf.
Dywed darlithydd arall o Ysgol y Gyfraith, Mr Gwilym Owen, gyda brwdfrydedd:
“Mae’r rhai hynny sy’n cymryd rhan yn Ffair y Gyfraith efo’r cyfle i weld Ffug-Lys mewn sesiwn yn Ffair y Gyfraith. Sir Roderick Evans, cyn Farnwr yn yr Uchel Lys, Barnwr yn Nghylchdaith Cymru a Chaer, yn olynol Cylchdaith Cymru fydd yn llywyddu. Fe fydd y ffug-lys yn leoliad i achos llys ffug, ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr y Gyfraith ymarfer eu sgiliau eiriolaeth, a chynrychioli achwynydd neu ddiffynnydd. Mae tîm Bangor wedi bod yn hynod lwyddiannus yn y blynyddoedd diweddar mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y ffug-lys yn ddwyieithog, gyda offer cyfieithu ar gael.”
Dros y blynyddoedd diweddar, mae Ysgol y Gyfraith, Bangor, wedi perfformio yn arbennig o dda, ac mae hyn wedi ei gofnodi mewn nifer o ffyrdd. Mae sgôr cyflogadwyedd yr Ysgol yn 94%, sydd yn cymharu’n ffafriol iawn efo’r cyfartaledd yn y sector o 61%. Mae Pwyllgor Cyflogadwyedd tri-pherson Ysgol y Gyfraith yn sicrhau fod cyfleoedd cyson ar gael mewn swyddfeydd cyfreithwyr a bargyfreithwyr. Wrth edrych ar Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, gwelir fod Ysgol y Gyfraith Bangor ar y brig yng Nghymru, ac yn 5ed drwy Brydain Fawr ar gyfer boddhad myfyrwyr yn gyffredinol. Mae nifer o staff academaidd Ysgol y Gyfraith wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol mewn nifer o brif Wobrau Dysgu yn y blynyddoedd diweddar. Ym mis Hydref, agorwyd ystafell “llys” ar gyfer cystadleuthau ffug-lysoedd gan yr Arglwydd Brif Ustus.
Fe fydd Ffair y Gyfraith yn cymryd lle yn Neuadd Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Bangor, rhwng 9.45am a 3.30pm. Bydd arddangosfa o nifer o stondinau cyflogwyr ym meysydd Cyfraith Tir a Chyfraith Ymddiriedolaethau. Mae’r ffair ar agor i bawb, ac mae mynediad am dim, ond fe’ch anogir i gofrestru I wneud hyn neu i holi am wybodaeth pellach, a chopi o’r rhaglen, os gwelwch yn dda, cysylltwch gyda Mr Gwilym Owen (john.g.owen@bangor.ac.uk) neu Dr Mark Hyland (m.hyland@bangor.ac.uk).
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2014