Ffenomen #HunlunDigolur
Mae seicolegydd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei gyfareddu gan y ffenomen #nomakeupselfie (#hunlundigolur) a welwyd yn cael cymaint o sylw'r wythnos hon ar gyfryngau cymdeithasol.
Fe wnaeth project ymchwil ganddo ym Mhrifysgol Bangor edrych ar y camargraffiadau sydd gan bobl wrth ystyried beth mae'r rhyw arall yn ei weld yn ddeniadol. Bydd canlyniadau'r ymchwil yn cael eu cyhoeddi'n fuan yn y Quarterly Journal of Experimental Psychology. Roedd ei broject ymchwil yn edrych yn benodol ar ddefnyddio colur a chafwyd rhai canlyniadau syfrdanol ac annisgwyl.
Roedd unigolion yn credu bod pobl eraill yn gweld defnydd sylweddol o golur yn ddeniadol, ac roedd hyn yn arbennig o wir ynghylch syniadau pobl am yr hyn mae dynion yn ei weld yn ddeniadol mewn merched. Credai'r ddau ryw bod dynion eraill yn gweld merched sy'n defnyddio cryn dipyn o golur yn fwy deniadol na rhai heb golur.
Fodd bynnag, gwelwyd bod hyn yn gamarweiniol iawn. Wrth ddweud beth oedd orau ganddynt hwy eu hunain, dywedodd dynion eu bod yn gweld wynebau merched yn fwy deniadol pan oedd ganddynt lai o golur - hyd at 40% yn llai nag oedd ganddynt mewn gwirionedd. Yn ogystal, roedd gan ferched a gymerodd ran yn yr astudiaeth syniadau tebyg iawn, gan ddweud bod merched eraill yn edrych yn fwy deniadol gyda llai o golur.
Meddai Dr Alex Jones o'r Ysgol Seicoleg: "Y neges amlwg o'r astudiaeth yma yw bod y syniadau sydd gennym ynghylch beth mae'r rhyw arall yn ei weld yn ddeniadol yn aml yn anghywir, boed yn ymwneud â maint neu bwysau'r corff, neu hyd yn oed rywbeth fel defnyddio colur. Mae'r camsyniadau hyn yn chwarae rhan bwysig mewn materion yn ymwneud â delwedd y corff a hunan-barch ac maent wedi'u seilio ar gamddealltwriaeth syml gwaetha'r modd. Dwi'n gobeithio y bydd pawb yn ymateb yn bositif i'r ffenomen nomakeupselfies a llongyfarchiadau i bawb a gododd ymwybyddiaeth o'r mater a chasglu arian at achos da yr un pryd!"
Jones, A. L., Kramer, R. S. S., & Ward., R. (in press). Misattributions in judgements of attractiveness with cosmetics. Quarterly Journal of Experimental Psychology
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2014