Fffilmiau myfyrwyr yn cael eu henwebu ar gyfer Gwobrau RTS Cymru
Mae ffilmiau gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi’u henwebu ar gyfer Gwobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) yng Nghymru.
Dywedodd Joanna Wright, uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau yn Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau’r Brifysgol:
"Mae derbyn enwebiadau mewn tri allan o bedwar categori posib yn ganlyniad gwych i'n myfyrwyr. Mae'n dyst i'r sgiliau ac i’r cyfleodd i gydweithio y gall ein myfyrwyr eu hennill yn ystod eu hastudiaethau cynhyrchu ffilm yma, ac yn gydnabyddiaeth deilwng o'u gwaith wrth iddynt symud ymlaen i yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol."
Ffilmiau’r myfyrwyr yn y categorïau dilynol yw:
Gwobr Ôl-raddedig:
Searching for Happiness
Ffeithiol:
Elis Derby: Fi ac OCD
Ffurf Fer:
Where r u?
Searching for Happiness oedd ffrwyth project traethawd hir MA mewn Cynhyrchu Ffilm Matt Melling. Ef oedd y Cyfarwyddwr, y Golygydd a’r Sinematograffydd. Roedd ffilm Tomos Morris Jones, Elis Derby: Fi ac OCD yn broject israddedig ganddo. Ysgrifennodd Hannah Grimston y ffilm Where r u?, gyda’i chyd-fyfyrwraig, Astral Roberts, yn Gyfarwyddwr/ Golygydd. Roedd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth a gyfansoddwyd gan fyfyriwr cerddoriaeth, James Gair, yn ogystal â chyfraniadau gan aelodau Cymdeithas Ffilm y Brifysgol.
Bydd enillwyr Gwobrau RTS Cymru 2020 yn cael eu cyhoeddi fel rhan o noson fawreddog yn Cineworld, Caerdydd, nos Iau, 27ain Chwefror, gyda’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan y cyflwynwyr teledu poblogaidd, Sean Fletcher a Ruth Wignall.
Roedd Matt Mellings, o Skegness yn America pan gyhoeddwyd yr enwebiadau. Dwedodd:
“Mae Searching for Happiness yn rhaglen ddogfen fer sy’n dilyn y pysgotwr Roger Smith wrth iddo hel atgofion am ei fywyd ar y môr a darganfod dirgelwch lleol. Hwn oedd fy narn traethawd hir ar gyfer fy nghwrs MA Gwneud Ffilm. Fe’i crëwyd fel rhan o driawd o ffilmiau a fu’n archwilio tirwedd Cymru a’r hobïau diddorol sydd gan bobl yno. ”
“Rwy’n rhyfeddu fy mod wedi cael fy enwebu! Wnes i erioed wneud unrhyw un o'r ffilmiau gyda'r syniad y bydden nhw'n ennill gwobrau! Mi es i ati i’w creu oherwydd roeddwn i'n hoffi'r pynciau, felly roedd yn dipyn o sioc. Diolch yn fawr iawn i staff Prifysgol Bangor am fy ngwthio i gymryd rhan mewn cystadlaethau amrywiol serch hynny, ac wrth gwrs yr holl gyfranwyr a chriw! ”
Ar hyn o bryd mae Matt yn byw ym Mryste ac wedi bod yn ffilmio eirth yn Laos ar gyfer rhaglen i’w ddarlledu mis nesaf, yn ogystal â gweithio ar nifer o sioeau garddio, ac yn fwy diweddar ar gyfer Channel 4.
A hithau wedi graddio mewn Astudiaethau Creadigol y llynedd, mae Hannah, o Watford, bellach yn astudio gradd Meistr mewn Drama ac Ysgrifennu ar gyfer Perfformiad ym Mhrifysgol Goldsmiths.
Meddai: “Mae Where r u yn dilyn menyw ifanc sy'n goresgyn ei thrawma ar ôl bod yn destun ymosodiad ar stryd gul. Ysgrifennais y ffilm mewn dosbarth ysgrifennu sgrin a'i haddasu yn ddiweddarach ar gyfer ei chynhyrchu fel ffilm fer.
“Mae derbyn yr enwebiad yn anhygoel ac rydyn ni i gyd mor falch o’n ffilm. Rwy’n credu bod hyn yn dyst i’r ffaith i’r ffilm efelychu’r teimladau cyffredin o ofn ac o benderfyniad. Roedd y Gymdeithas Ffilm o gymorth neilltuol. A minnau’n Llywydd y Gymdeithas, ar unrhyw adeg pan yr oedd gennym broblemau gyda ffilmio, roedd aelodau bob amser yn fwy na pharod i helpu. Mae'n profi’n glir eu parodrwydd a'u hawydd i greu ffilmiau a helpu eu cyd-fyfyrwyr.”
Meddai Astral Roberts, a raddiodd mewn Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau’r Cyfryngau'r llynedd, ac sydd bellach yn astudio cymhwyster dysgu ym Mhrifysgol Roehampton:
“Rydym yn teimlo hi’n fraint cael ein henwebu. Gweithiodd y Tîm yn galed ar gynhyrchu’r ffilm fer, ac rwyf wrth fy modd ein bod yn medru rhannu’r gwaith gydag eraill.”
Mae Astral, a fagwyd yng Nghaerhirfryn, bellach yn byw yn Kingston Upon Thames. Ychwanegai:
“Roeddwn yn caru fy amser yn astudio ym Mangor; roedd mor wahanol i’r hyn yr oeddwn wedi’i brofi o’r blaen. Mae’n lleoliad dedwydd ac yn gymuned glos. Dewisais astudio yma fel newid i’r dinasoedd yr oeddwn yn gyfarwydd â nhw. Roedd yn sicr yr hyn yr oeddwn ei angen! Fe aeth y tair blynedd heibio mor sydyn, a rŵan fy mod yn ôl mewn dinas, rwyf yn aml yn canfod fy hun yn hel atgofion am ba mor dawel oedd bywyd ym Mangor.”
Mae Tomos Jones, a astudiodd Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau bellach yn olygydd dan hyfforddiant gyda chwmni teledu Cwmni Da yng Nghaernarfon. Mae’n sicr bod ei ffilm, a enwebwyd am y wobr, wedi bod yn help mawr wrth iddo ymgeisio am ei swydd.
Meddai Tomos: “Mae’n ffilm ddogfen am ffrind i mi sy’n dioddef â OCD. Roeddwn eisiau dangos i bobl wir effaith y cyflwr, a sut mae’n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd. Mae yno lawer o stigma o amgylch y cyflwr hefyd, felly roedd hynny’n rhywbeth roeddwn eisiau edrych arno yn y ffilm.”
Dewisodd Tomos astudio ym Mangor gan fod yno nifer eang o fodiwlau gwahanol oedd yn apelio iddo. Roedd y gallu i wneud y rhan fwyaf o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn atyniad.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2020