Ffilm ddogfen un o raddedigion Bangor yn derbyn enwebiad ar gyfer gwobr gan y Royal Television Society
Mae un o raddedigion diweddar rhaglen MA Prifysgol Bangor ym maes cynhyrchu ffilm wedi derbyn enwebiad am ei gwaith gan y Royal Televison Society, a hynny yn dilyn cyfnod ffwythlon yn arddangos ei ffilm mewn gwyliau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Charlotte Wells, o Fanceinion, wedi derbyn yr enwebiad ar gyfer y wobr uchel ei pharch am ei ffilm ddogfen fer, ‘Cabbie’, sy’n dilyn ei llys-dad wrth iddo yrru ei dacsi un gyda’r nos. Mae’r cynhyrchiad yn rhannu cyswllt pellach â Bangor, a hynny gan mai un arall o raddedigion diweddar y Brifysgol, Chiron Farrimond o’r Ysgol Gerddoriaeth, sydd wedi llunio’r gerddoriaeth sy’n ymddangos yn y ffilm.
Er nad yw ond gwta 5 munud o hyd, mae’r ffilm yn bortread grymus a phersonol o oblygiadau penderfyniad a wnaeth Pete, y gyrrwr tacsi, i newid ei yrfa yn llwyr. Mae’n adrodd yr hanes yn ei lais ei hun wrth iddo yrru ar hyd strydoedd dinas Manceinion yn nhywyllwch y nos, gan ychwanegu gwedd arallfydol i’r daith – yn arbennig felly wrth i’r straeon yn mae yn eu hadrodd bendilio o’r llon i’r lleddf a thuag at atgofion brawychus o fygythiadau a thrais y mae wedi eu hwynebu gan deithwyr.
Wrth ymateb i’r newyddion fod ‘Cabbie’ wedi ei enwebu ar gyfer gwobr myfyrwyr gan yr RTS, meddai Charlotte:
“Dwi wedi gwirioni’n lân! Mae’n gamp a hanner cael fy newis ar gyfer y wobr ac, i fod yn onest, mae’r enwebiad wedi fy synnu’n stond. Mae’n wych gwybod fod Cabbie yn cael ei gwerthfawrogi, yn arbennig felly ar ôl neilltuo cymaint o waith caled arni. Fedra i ddim disgwyl i fynd lawr i Lundain a chyfarfod y myfyrwyr eraill sydd wedi eu henwebu a gweld eu ffilmiau nhw. Mae’r holl newyddion da wedi fy llorio a dwi’n teimlo’n gyffrous iawn am y daith dwi arni ar hyd o bryd.”
Cafodd Charlotte ei llongyfarch ar ei llwyddiant gan Joanna Wright, Cyfarwyddwr Cwrs ar gyfer rhaglen MA Ffilm yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, a ddywedodd:
“Mae rhaglen blwyddyn yr MA yn rhaglen amrywiol a phrofiad-ganolog sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer y diwydiant ffilmio proffesiynol. Mae ein myfyrwyr yn cael cyfloedd rheolaidd i gysylltu â chymunedau a’r diwydiant y tu hwnt i’r Brifysgol ac mae ffilm Charlie yn enghraifft wych o stori yn cael ei hadrodd yn feistrolgar, diolch i’r sgiliau y mae wedi eu datblygu ar y cwrs. Rydym yn hynod falch o’i llwyddiant ac yn dymuno’r gorau iddi ar gyfer y noson wobrwyo a thu hwnt.”
Mae’r Student Television Awards yn dathlu a gwobrwyo gwaith ffilmio gan fyfyrwyr sy’n dangos ysbryd creadigol o ran llun a sain, meistrolaeth o sgiliau’r grefft, dyfeisgarwch a greddf ar gyfer adrodd straeon. Cynhelir y noson wobrwyo ar 22 Mehefin 2018, er mwyn clodfori gwaith a gynhyrchwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2016 / 17.
Mae modd gwylio ‘Cabbie’ yma: https://vimeo.com/220934840
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2018