Ffilm Fud yn ennill yn yr Oscars
Ar ôl trafod yr enwebiadau Oscar am y ffilm The Artist yr wythnos ddiwethaf, yma mae Dr Jonathan Ervine o’r Ysgol Ieithoedd Modern yn rhannu ei farn am lwyddiannau nos Sul.
“Mae llwyddiant The Artist yn yr Oscars yn coroni blwyddyn anhygoel i’r ffilm Ffrengig sydd wedi tynnu mwy o bobl i sinemâu yn Ffrainc nag a welwyd ers bron i hanner canrif. Mae'r pum Oscar a enillwyd gan y ffilm yn cynnwys rhai o'r gwobrau pwysicaf sydd ar gael, gan gynnwys y Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau a’r Actor Gorau.”
“Gwelwyd Jean Dujardin yn cipio’r Oscar am yr Actor Gorau yn Los Angeles ar ôl iddo golli gwobr ddwy noson ynghynt ym Mharis yn Les Césars, seremoni sy’n cyfateb i’r Oscars yn Ffrainc. Aeth y wobr Actor Gorau yn Les Césars i Omar Sy, am ei rôl yn Intouchables (Untouchables). Yn 2011 daeth hon yr ail ffilm Ffrengig fwyaf poblogaidd erioed, gan ddenu 19,000,000 o wylwyr.”
“Dujardin oedd y Ffrancwr cyntaf i ennill Actor Gorau yn yr Oscars, yr un noson ag y daeth The Artist i’r brig fel y ffilm Ffrengig gyntaf i ennill Ffilm Orau. Roedd rhyw gymesuredd arbennig i restr enillwyr y seremoni nos Sul. Aeth pum gwobr i The Artist, ffilm Ffrengig wedi ei lleoli yn Los Angeles, ac aeth pump arall i Hugo, ffilm Americanaidd wedi ei lleoli ym Mharis.”
“Yn dilyn llwyddiant yn seremoni’r Oscars, rwy’n gobeithio y bydd The Artist yn awr yn cael ei dangos am gyfnod estynedig haeddiannol mewn sinemâu ledled Prydain. Yma ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn cynnal nifer o fodiwlau poblogaidd ar sinema Ffrengig ac Ewropeaidd. Mae hyn yn dangos bod cryn ddiddordeb mewn ffilmiau o'r fath.”
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2012