Ffilm gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi ei henwebu am Wobr Teledu Myfyrwyr RTS
Mae ffilm fer a grëwyd gan gyn-fyfyriwr a myfyriwr presennol yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei henwebu am Wobr Teledu Myfyrwyr 2014 y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn y categori Drama Ôl-raddedig.
Crëwyd y ffilm, Jam Man, ychydig flynyddoedd yn ôl gan John Evans, a oedd yn astudio am radd Meistr mewn Ymarfer Ffilm, a Lester Hughes a oedd newydd ddechrau ar PhD mewn Ymarfer Ffilm.
Yn y ddrama Gymreig 25 munud o hyd gwelir cyn filwr Chris (Iago McGuire) yn gorfod delio â sefyllfa anodd lle mae ei ferch Kelly (Ceri Williams), nad oedd wedi ei gweld ers amser maith, yn dod yn ôl i’w fywyd. Mae’r ddau yn mynd ar daith i ailddarganfod eu perthynas. Mae'n rhaid i Chris wynebu a herio’r problemau sy’n andwyo ei fywyd o er mwyn achub Kelly o afael ei rhai hi.
Mae Lester Hughes, o Bwllheli, yn fyfyriwr hŷn ac yn dad i ddau o blant. Meddai Lester:
"Rwyf wrth fy modd bod Jam Man ar y rhestr fer a bydd yn dangos yr hyn sy’n digwydd ym myd ffilmiau amatur Cymreig yn y seremoni wobrwyo yn Llundain ar 5 Mehefin.
"Rwyf hefyd yn falch iawn dros John Evans a ysgrifennodd a chyfarwyddo’r ffilm. Mae’n dyst i gryfder ei sgiliau ysgrifennu a chyfarwyddo bod y ffilm wedi ei rhoi ar y rhestr fer mewn nifer o wyliau ffilm o bwys y llynedd, gan gynnwys yr Ŵyl Ffilm Cyfryngau Celtaidd. Mae'r enwebiad am wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn goron ar y cyfan, ac yn gyfle i rai o'r cast a'r criw gyfarfod eto a mwynhau awyrgylch unigryw seremoni wobrwyo fawreddog.
"Rwyf hefyd yn credu fod yr enwebiad yn adlewyrchu ansawdd y cyfleusterau addysgu a chynhyrchu sydd ar gael i bawb yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor. Er ei bod yn adran gymharol fach, credaf bod yr enwebiad yma’n profi y gall Prifysgol Bangor gystadlu gydag unrhyw un ar raddfa genedlaethol."
Mae'r gwobrwyon, a gadeirir gan Gyfarwyddwr Sianeli Adloniant Sky, Stuart Murphy, yn dathlu elfennau gorau ym maes teledu i fyfyrwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Bydd gwaith y rhai a enwebwyd ac uchafbwyntiau'r seremoni wobrwyo eleni yn cael eu darlledu ar Sky One neu Sky Two.
Bydd y digrifwr Romesh Ranganathan yn arwain y seremoni wobrwyo yn y BFI Southbank ddydd Gwener 5 Mehefin.
Straeon perthnasol:
Myfyriwr ôl-radd wedi cael ei enwebu am wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin
Ffilm MA am awyr-filwr yn ennill gwobr
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015