Ffilm MA am awyr-filwr yn ennill gwobr
Mae ffilm gan gyn-fyfyriwr a gafodd radd MA ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill y wobr am y ffilm orau mewn gŵyl ffilmiau yng Nghaerdydd.
Roedd Jam Man yn un o ugain o ffilmiau ar y rhestr fer yn y categori Ffilm Ffuglen Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Mini Caerdydd.
Enillodd John Evans, o Fangor, MA gyda Rhagoriaeth mewn Gwneud Ffilmiau y llynedd, ar ôl cael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Ffilmiau yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau.
Mae bellach yn gynhyrchydd/cyfarwyddwr gyda Chwmni Da, cwmni cynhyrchu teledu yng Nghaernarfon.
"Mae'r wobr yn bwysig i bawb a fu ynglŷn â'r cynhyrchiad. Mae cael eich enwebu yn help garw i CV cynhyrchu felly mae ennill yn bwysicach fyth," meddai John Evans.
"Roedd yr MA ym Mangor yn allweddol bwysig nid yn unig i ddatblygiad y ffilm ond i’m datblygiad innau fel gwneuthurwr ffilmiau.
"Mae’n fwy na dim ond hyfforddiant addysgol neu alwedigaethol. Mae fel rhwyd diogelwch sy'n caniatáu i chi wneud camgymeriadau a dysgu ohonynt, tra ar yr un pryd yn eich cefnogi'n dechnegol ac yn greadigol. Mae'n wirioneddol werthfawr."
Mae'r ffilm, a gwblhawyd yn ystod ei flwyddyn olaf fel myfyriwr yn dilyn hynt y cyn-Awyr-filwr Chris sydd yn wynebu gofid ei orffennol ond hefyd yn gorfod delio â dyfodiad ei ferch sydd wedi ymddieithrio oddi wrtho.
Wrth iddynt gychwyn ar daith i ailddarganfod eu perthynas rhaid i Chris herio ei ochr dywyll ei hun er mwyn arbed Kelly rhag ei hochr dywyll hithau.
Yr actorion yw Iago McGuire, Ceri Williams, Andrea Edwards, a Dyfrig Evans. Cynhyrchwyd y ffilm gyda chymorth Lester Hughes, technegydd a myfyriwr PhD yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.
"Ysgrifennais sgript ar gyfer ffilm hir yn y lle cyntaf. Roedd yn seiliedig ar yr un syniad ond gyda llawer mwy o ddyfnder a'r cymeriadau wedi datblygu llawer mwy. Roedd y fersiwn byr yn ffordd o gael gwneud y stori, dyna'r cyfan." meddai John Evans.
"Daeth â'i phroblemau a'i phethau annisgwyl ei hun, wrth i mi geisio sicrhau y byddai'n ffilm fer ac nid yn ffilm hir wedi ei gwasgu mewn i amser byr. Roedd yn wych gweld ei photensial ar y sgrin a dangos lle gallai'r cymeriadau hyn dyfu.
"Gwneud rhaglen ddogfen arall yw'r cam nesaf, cyn gwneud drama arall.
“Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai prysur iawn i John Evans. Cafodd ei raglen ddogfen Cysgod Rhyfel, sy'n datgelu profiadau Cymry yn y lluoedd arfog, ei darlledu ar S4C y mis diwethaf.
Mae dwy ffilm arall, Not a Long I Stood There, hefyd wedi ennill y wobr am y Ffilm Orau yn Gymraeg a gwobr Cymdeithas Teledu Frenhinol Cymru am y Ffilm Ffuglen orau yng Ngŵyl ffilmiau Ffresh y llynedd.
Yn 2013 cyfarwyddodd Curtains, ffilm ddogfen fer a osodwyd mewn lloches i ferched oedd yn tynnu sylw at gam-drin merched yn y teulu. Cafodd y ffilm sylw ar raglen Fresh ar BBC Three.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014