Ffilm o Brifysgol Bangor ar restr fer Gwobrwyon RTS Television Awards
Pob lwc i Andy Pritchard, sydd wedi graddio o Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau! Heddiw (18.3.16) bydd Andy o’r Groeslon yn cael gwybod os yw ei ffilm sydd ar y rhestr fer Snowdonia: open all year yn llwyddo yn rownd Cymru RTS Student Television Awards.
Erbyn hyn, mae Andy’n gwneud ei fywoliaeth fel gŵr camera llawrydd ac wedi bod yn gweithio yn Llundain, ar raglen Top Gear newydd y BBC, ymysg pethau eraill, a thramor i gwmnïau mawrion fel Nikon a Jaguar Land Rover ar gyfer eu nawdd i’r Rugby World Cup.
Enillodd Andy radd dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau’r Cyfryngau o Brifysgol Bangor yr haf diwethaf.
Dewisodd Andy bwnc a oedd yn agos at ei galon ar gyfer y ffilm fer ar gyfer ei radd.
Meddai Andy am y ffilm:
“Penderfynais ar Eryri fel testun y ffilm gan nad yw’r ardal yn cael y sylw mae’n ei haeddu. Dwi’n mwynhau dringo a’r awyr agored ac roeddwn eisio dangos lle mor wych sydd yma.
“Roeddwn wedi fy synnu wrth glywed fy mod ar y rhestr fer- roeddwn wedi tybio y byddai ffilm ffuglen neu ddrama wedi bod ar y blaen dros ffilm hybu neu ffeithiol.”
Er ei fod wedi cyflawni un uchelgais i wneud ei fywoliaeth y tu ôl i’r camera, mae bryd Andy ar greu ei ffilmiau ei hun rhyw ddiwrnod- ac mae’n ffan fawr o’r cyfarwyddwr ffilmiau Quentin Tarantino.
Meddai Geraint Ellis, Uwch Ddarlithydd – Diwydiannau Creadigol a fu’n gorychwylio project Andy:
“Mae Andy yn wneuthurwr ffilmiau talentog iawn, ac ‘roedd o’n gyfrifol am bob agwedd o’r ffilm yma. ‘Roedd ei ymroddiad i’r gwaith yn arbennig iawn, ac mae’n haeddu pob llwyddiant. Mae cyrraedd rhestr fer gwobrau RTS Cymru yn dipyn o gamp – mae ‘na lawer iawn o gystadleuaeth, ac mae’n braf iawn gweld y ffilm yn cael mwy o gydnabyddiaeth a sylw. Nid yn unig mae’n dangos talentau Andy, ond hefyd pa mor arbennig ydy ardal Eryri fel lleoliad ar gyfer gweithgareddau awyr agored.”
Bydd enillydd rownd Cymru’r gwobrau’n cael ei gyhoeddi ar ddiwedd Gŵyl Zoom Cymru.
Ni fydd Andy’n bresennol- bydd wrthi’n ffilmio fideo cerddoriaeth yn Niwbwrch efo band lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016