Ffiseg Gwantwm a Chwedlau Cymraeg yn Harvard
Yn ddiweddar, rhoddodd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg y brif ddarlith yn yr 'Harvard Celtic Colloquium'. Dyma gynhadledd flynyddol fyd-enwog sy'n tynnu ynghyd ysgolheigion Celtaidd ar draws yr Unol Daleithiau ac Ewrop.
Roedd y ddarlith arloesol hon yn defnyddio syniadau'r ffisegydd cwantwm, Stephen Hawking, a fu farw eleni, i oleuo agweddau ar y modd y mae hen chwedlau Cymraeg a Gwyddeleg yn trafod amser a gofod. Elfen drawiadol arall oedd y modd y defnyddiwyd stribedyn Möbius fel taflen i gyd-fynd â'r ddarlith - a'i siâp arbennig yn adlewyrchu adeiladwaith y ddarlith ei hun.
Yng ngeiriau Aled: "Efallai nad oes 'na berthynas amlwg rhwng ffiseg gwantwm a llên y ddeuddegfed ganrif ar yr olwg gyntaf. Ond pam na fedrwn ni gael ysbrydoliaeth o bob cyfeiriad? O'r Mabinogi i gerddi darogan Myrddin a Thaliesin, mae'r hen destunau yma'n bwrw golwg arbennig iawn ar realiti - maen nhw yr un mor llachar a dyrys a gogoneddus ag unrhyw beth gewch chi yn A Brief History of Time. Roedd hi'n wych gweld y gynulleidfa yn y gynhadledd yn ymateb mor dda i hyn - ac yn fwy na dim, mae'n hwyl hefyd!"
Dywedodd yr Athro Peredur Lynch, sy'n arbenigwr ar lenyddiaeth Gymraeg ganoloesol ei hun: "Mi es i i'r Gynhadledd hon yn Harvard am y tro cyntaf yn 1989, pan o'n i'n ymchwilydd dibrofiad ar ddechrau fy ngyrfa. Profiad cofiadwy oedd dod ar draws ysgolheictod Celtaidd Gogledd America yn ei ryferthwy am y tro cyntaf. Erbyn hyn mae Cynhadledd Harvard yn enwog trwy'r byd fel llwyfan ar gyfer syniadau newydd ac arloesol ym maes Astudiaethau Celtaidd. Roedd darlith Aled yn enghraifft ddisglair iawn o hynny. Ac roedd yn gyfle hefyd inni ddathlu'r cysylltiadau academaidd agos sy'n bodoli eisoes rhwng Ysgol y Gymraeg ym Mangor a'r Adran Geltaidd yn Harvard."
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2018