Fflam Olympaidd yn dod i Fangor
Bydd Prifysgol Bangor yn ymuno â'r dathliadau pan fydd y Fflam Olympaidd yn dod i’r ddinas wythnos nesaf.
Mae nifer o staff, myfyrwyr a graddedigion o’r Brifysgol ymhlith y rhai sydd wedi cael yr anrhydedd o gludo’r Ffagl Olympaidd ar ei thaith drwy ogledd Cymru ar Ddydd Llun, Mai 28 ac i ddathlu’r digwyddiad bydd y Brifysgol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau o amgylch Bangor ar y diwrnod.
Bydd yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff yn cynnal digwyddiad 'Profwch eich iechyd a ffitrwydd' yng Nghanolfan Deiniol yn ystod y prynhawn. Bydd nifer o weithgareddau gan gynnwys profion sy'n gysylltiedig ag iechyd cyffredinol megis pa mor dda yw eich cydbwysedd ar surfboard ffug a phrofion amser ymateb.
Hefyd bydd arbenigwyr o’r Brifysgol wrth law i esbonio pam fod ymarfer corff mor bwysig ac i ateb unrhyw gwestiynau cyffredinol am iechyd a ffitrwydd. Bydd gwybodaeth am yr ymchwil sydd yn cael ei gynnal o fewn yr Ysgol hefyd a’r gael gyda'r posibilrwydd i chi gael bod yn rhan o astudiaethau ymchwil yn y dyfodol.
Dywedodd Jeanette Thom, Uwch Ddarlithydd o’r Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff : "Gyda’r fflam Olympaidd yn dod i Fangor, mae’n gyfle perffaith i gael pawb yn frwdfrydig am y Gemau Olympaidd. Rydym yn edrych ymlaen at arddangos ein gwaith ymchwil ac arbenigedd yn y maes hwn felly dewch i'n gweld a chanfod pa fath o ymchwil sy’n digwydd yn ein hysgol ni! "
Bydd myfyrwyr rhyngwladol hefyd yn ymuno yn y dathliadau. Bydd myfyrwyr o India a Tsieina yn perfformio detholiad o ddawnsfeydd traddodiadol a chaneuon o flaen yr eglwys gadeiriol o 1pm ymlaen a bydd rhai y tu allan i’r Porth Coffa mewn gwisg draddodiadol i groesawu'r fflam.
Dywedodd Alan Edwards, Pennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr Rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor: "Mae'r Gemau Olympaidd yn ddathliad o chwaraeon rhyngwladol ac mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn edrych ymlaen at weld y fflam ym Mangor. Maent i gyd yn edrych ymlaen at groesawu'r fflam mewn ffordd liwgar a trawiadol iawn! "
Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys Gemau Olympaidd i Blant o 12pm ymlaen ar y lawnt fowlio a stondin 'Iaith a’r Gemau Olympaidd' . Cewch hefyd y cyfle i ennill diwrnod ym mywyd athletwr elitaidd.
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden yn y Brifysgol: "Mae digwyddiad y fflam Olympaidd ym Mangor yn gyfle gwych i ni atgoffa’r gymuned am rai o'r cyfleoedd gwych sy'n bodoli i bawb gael cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mai 2012