Ffordd arloesol o ymarfer iaith a chorff
Diolch i broject cydweithredol rhwng Prifysgol Bangor a gwneuthurwr offer ffitrwydd blaenllaw mae cyfleoedd newydd bellach ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymarfer corff. Bydd cyfle i ymwelwyr â stondin y Brifysgol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Benfro yr wythnos nesaf ddefnyddio beic ymarfer proffesiynol gyda rhyngwyneb Cymraeg.
Mae’r datblygiad arloesol yma yn ffrwyth cydweithio rhwng y cwmni rhyngwladol Johnson Health Tech ac Uned Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
Daeth y cwmni ar ofyn Canolfan Bedwyr am gymorth gyda’r gwaith o baratoi rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer eu hoffer ffitrwydd ar sail profiad y ganolfan yn datblygu datrysiadau Cymraeg i gwmnïau rhyngwladol eraill fel Microsoft a Sharp. Gyda’i brif bencadlys yn Taiwan, mae Johnson Health Tech yn un o gwmnïau mwyaf y byd ym maes offer ffitrwydd ac yn ymfalchïo yn y ffaith fod amlieithrwydd yn ganolog i’w weledigaeth. Yn cynnwys y Gymraeg, mae’r cwmni bellach yn darparu rhyngwynebau mewn pymtheg o ieithoedd gwahanol..
Dywedodd Jon Johnston, Cyfarwyddwr Rheoli Johnson Health Tech “Rydym yn hynod o falch o fod wedi cael y cyfle i gydweithio gyda Phrifysgol Bangor i gynhyrchu offer ffitrwydd ag iddo arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol ehangach. Fel cwmni, rydym yn ymwybodol iawn o’n cyfrifoldebau cymdeithasol ac yn hyderus y bydd y datblygiad newydd yma nid yn unig o fudd i ddefnyddwyr sy’n awyddus i ymarfer yn Gymraeg ond hefyd yn cyfrannu at y gwaith o gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynnal a datblygu defnydd o’r Gymraeg.”
Yng nghyd-destun yr angen i’r Gymraeg ganfod troedle cadarnach ym maes chwaraeon a hamdden, roedd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, yn arbennig o awyddus i’r ganolfan fod yn rhan o’r gwaith. Dywedodd: “Mae arbenigwyr ym maes cynllunio ieithyddol i gyd yn gytûn fod defnydd o ieithoedd llai ym maes hamdden yn hanfodol i’w parhad. Roedd y nod o weld offer ffitrwydd yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg mewn canolfannau hamdden a champfeydd ledled Cymru a’r byd yn gymhelliad cryf iawn wrth ymgymryd â’r gwaith.”
Cafodd y gwaith cyfieithu ei hun ei wneud gan Uned Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr. Fel uned sy’n annog cyrff a sefydliadau cyhoeddus i ddefnyddio iaith sy’n glir, naturiol a hawdd ei deall, roedd amcan pendant i’r gwaith cyfieithu. Dywedodd Eleri Jones, Prif Olygydd Cymraeg Clir: “Ein nod o hyd wrth greu fersiwn Gymraeg y feddalwedd oedd osgoi cyfieithu’r cyfarwyddiadau yn rhy gaeth ac annhyblyg. Roeddem yn awyddus i greu fersiwn Gymraeg a fyddai’n glir a hawdd ei deall er mwyn gwneud yn siŵr y bydd siaradwyr a dysgwyr Cymraeg o bob oed a gallu yn dewis y rhyngwyneb Cymraeg wrth ymarfer.”
Mae cwmni Johnson Health Tech a Chanolfan Bedwyr yn awyddus i sefydlu partneriaeth hir dymor ac eisoes yn trafod y gwaith o osod y Gymraeg ar y genhedlaeth nesaf o beiriannau ffitrwydd sy’n cael eu datblygu gan y cwmni ar hyn o bryd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2013