Ffrydio – yr ateb i'r cwymp yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg
Yn ôl ymchwil a wnaed ar y cyd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ac Ysgol Busnes Bangor, ffrydio yw'r ateb os yw cwmnïau recordiau'n mynd i atal a gwrthdroi'r gostyngiad a welir yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg.
Bydd yr ymchwil, a wnaed mewn cydweithrediad â Recordiau Sain Cyf, yn arwain at lansio gwasanaeth lawrlwytho a ffrydio rhyngwladol newydd i gerddoriaeth Gymraeg.
Mae Steffan Thomas, a wnaeth yr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ymwneud â chynulleidfa ryngwladol ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn gwerthu cerddoriaeth Gymraeg tu hwnt i ffiniau'r wlad.
"Roedd yn gyfle i gymryd cam yn ôl oddi wrth y diwydiant cerddoriaeth er mwyn edrych o'r newydd ar y ffordd y gall defnyddwyr a chynhyrchwyr gydweithio er mwyn creu dyfodol cynaliadwy ac atal y dirywiad," meddai.
"Wrth drafod cerddoriaeth a'r diwydiant cyfryngau ehangach, cyfeirir yn aml at bethau 'digidol'; fodd bynnag, mae'n werth nodi mai gwerthu cryno ddisgiau yw 60% o werthiant yr holl ddiwydiant cerddoriaeth ar hyn o bryd.
"Mae lawrlwytho'n mynd yn llai poblogaidd gyda gwasanaethau ffrydio ar gynnydd. Fodd bynnag, mae ffrydio'n dal yn her i ddefnyddwyr a chynhyrchwyr.
"Nid yw ffrydio bob amser yn rhoi gwerth am arian i ddefnyddwyr ac, i gynhyrchwyr, nid yw'r elw o ffrydio'n ddigonol i gefnogi'r broses gynhyrchu."
Nod yr ymchwil oedd canfod llwybr i ddosbarthu cerddoriaeth sy'n rhoi'r nwyddau a'r gwasanaeth y maent eu heisiau i ddefnyddwyr, tra'r un pryd roi'r elw y mae arnynt ei angen i'r cynhyrchwyr.
Trwy gyllid KESS cafodd Steffan Thomas a Sain y gefnogaeth oedd ei hangen i wneud yr ymchwil a gwneud newidiadau i gefnogi twf a datblygiad y busnesau.
Meddai Dafydd Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Sain: "Mae angen i bob cwmni wneud ymchwil a datblygu er mwyn addasu ei nwyddau a'i ddulliau marchnata a gwerthu ar gyfer anghenion cwsmeriaid.
"Fe wnaeth ffurfio partneriaeth â Phrifysgol Bangor trwy KESS ein galluogi i gynllunio ac addasu i wynebu'r newidiadau technolegol cyflym sy'n digwydd yn y diwydiant cerddoriaeth.
"O wybod bod gennym adnoddau'r Brifysgol y tu ôl i ni, rhoddodd hynny'r hyder i ni weithredu ar ddarganfyddiadau'r ymchwil."
O ganlyniad i'r ymchwil mae Sain yn awr yng nghamau datblygu rhaglen ffrydio newydd i ddarparu'r gwasanaeth a'r nwyddau y mae eu cwsmeriaid yn galw amdanynt, a hynny am bris y maent yn fodlon ei dalu. Bydd hyn yn arwain at broses fusnes gynaliadwy.
Hefyd ceir App newydd i farchnata nwyddau newydd a digwyddiadau. Mae ymchwil ymhlith defnyddwyr wedi dangos bod 34.7% o ddefnyddwyr Sain naill ai'n ffrydio cerddoriaeth ar hyn o bryd neu eisiau gwneud hynny, sy'n dangos bod hon yn farchnad gynyddol i gerddoriaeth Gymraeg neu Gymreig.
Meddai Steffan Thomas: "Mae KESS wedi galluogi i mi weithio gyda chwmniau allanol ym maes dosbarthu a chydgrynhoi digidol, yn ogystal ag ymchwilio a rhannu gwybodaeth yn Ffrainc, America, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.
"Mae Sain yn awr mewn sefyllfa i arwain y twf digidol mewn cerddoriaeth yng Nghymru."
Cefnogwyd yr ymchwil gan Dr Eben Muse, Stephen Jones a Dr Gareth Griffiths o Brifysgol Bangor a Dafydd Roberts o Sain Cyf.
Cyllidir ysgoloriaeth ymchwil Steffan dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. . Fe'i cyllidir KESS yn rhannol gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Mae elfennau’r Meistri Ymchwil a PhD wedi’u cyfuno â rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS yn parhau tan 2014, ac yn darparu 400+ o leoedd PhD a Meistr ar draws Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014