Food Dudes Ifanc yn Arwain y Ffordd i Feithrinfeydd Iach
Enillodd rhaglen newydd gyffrous sy’n gweithio i sefydlu arferion bwyta da ymhlith plant ifanc iawn brif Wobr Ymchwil Iechyd LARIA (Cymdeithas Ymchwil a Gwybodaeth Awdurdodau Lleol), mewn seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Manceinion.
Mae’r rhaglen yn ffordd effeithiol iawn o sicrhau bod plant mor ifanc â 2 neu 3 oed yn dysgu mwynhau bwyd da ac yn datblygu arferion bwyta iach a fydd yn para gydol eu hoes. Fel y dywedodd yr Athro Pauline Horne, a arweiniodd ddatblygiad y rhaglen, “Mae’n dangos nad ydych chi byth yn rhy ifanc i ddysgu.”
Yn ystod y degawdau diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol mewn gordewdra plant mewn gwledydd ledled y byd. Erbyn hyn mae gordewdra wedi cyrraedd lefelau uchel iawn yn y DU ac mae i’w weld yn yr ifanc iawn. Mae arbenigwyr yn y maes yn cydnabod ei bod yn bwysicach nag erioed i ymyrryd mor gynnar â phosibl cyn i arferion diet gwael sefydlu eu hunain am oes.
A dyna dasg y rhaglen Food Dudes Ifanc! Mae’r rhaglen hon, sydd wedi’i hanelu at blant rhwng 2 a 5 oed, yn cael ei rhedeg mewn Meithrinfeydd, Canolfannau Blynyddoedd Cynnar a Chylchoedd Chwarae. Mae wedi’i modelu ar raglen hynod lwyddiannus Food Dudes Ysgolion Cynradd, sy’n cael ei redeg mewn llawer o ysgolion yn y DU ac Iwerddon. Mae’r cynllun Young Dudes newydd wedi’i gynllunio’n arbennig i apelio at feddyliau a boliau iau.
Mae’r rhaglen yn defnyddio cyfres o “brociau” a dylanwadau newid ymddygiad i helpu plant ifanc iawn i wneud dewisiadau iachach ac i ddysgu mwynhau amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau, sy’n golygu y byddant yn bwyta llai o’r bwydydd melys a brasterog y mae plant yn bwyta cymaint ohonynt y dyddiau hyn.
Ar ôl gweld ffilmiau o’r delfrydau ymddwyn, y Food Dudes Ifanc arwrol a dynamig, Rocco, Razz, Tom a Charlie, sy’n mwynhau ac yn cael egni mawr arbennig drwy fwyta ffrwythau a llysiau, bydd y plant ifanc am eu hefelychu. (Cliciwch yma i weld y Fideo Hyrwyddo - http://fooddudes.co.uk/videos/nursery.html)
Ac, yn well byth, pan fyddant yn dechrau blasu’r ffrwythau a’r llysiau a roddir iddynt, byddant yn ennill gwobrau Food Dudes cyffrous. Maent yn ymfalchïo yn eu llwyddiant, a gall pawb ennill.
Ar ôl cael eu cyflwyno i’r un bwydydd dro ar ôl tro, maent yn dechrau magu blas amdano. Eu blasbwynt sy’n gwneud y dysgu.
Cafodd treialon o dan reolaeth y Rhaglen newydd eu cynnal yn Walsall, yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, , gyda chymorth GIG Walsall, Walsall MBC a Phrifysgol Bangor. Roeddent yn dangos bod plant mewn Meithrinfeydd a oedd wedi cael profiad o’r rhaglen Food Dudes yn bwyta 129% yn fwy o lysiau, a 55% yn fwy o ffrwythau. Roedd yr enillion hyn i’w gweld o hyd 3 mis yn ddiweddarach. Nid oedd arferion bwyta plant mewn ysgolion cymharu ble’r oedd yr un amrywiaeth o ffrwythau a llysiau’n cael eu cynnig dros ar ôl tro, yn dangos yr un gwelliannau. Mae’r astudiaeth yn dangos nad yw cynnig bwyd da’n ddigon – mae hefyd yn hanfodol i gymell y plant i’w fwyta!
Bydd yr ysgolion cymharu yn awr yn dilyn y rhaglen Food Dudes Ifanc fel y gall y plant hynny fod yn Dudes hefyd.
Meddai’r Cynghorydd Mike Bird, deiliad portffolio Iechyd Cyhoeddus Cynghrair Cyngor Walsall “Rydym wrth ein bod â llwyddiant y rhaglen hon i wella arferion bwyta pobl ifanc iawn yn Walsall.
“Mae wedi bod yn brofiad gwych i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r rhaglen: staff y meithrinfeydd, a rhieni ac, wrth gwrs, y plant eu hunain, a oedd wedi gwirioni.”
Meddai Salma Ali, Swyddog Atebol Grŵp Comisiynu Clinigol Walsall “Mae cyflwyno Food Dudes i ysgolion cynradd Walsall ac, yn awr, i’r Meithrinfeydd, wedi trawsnewid popeth, ac rydym mor falch o gael gweithio mewn partneriaeth i arloesi mewn ymyriadau gwirioneddol effeithiol yn yr agwedd holl bwysig hon ar iechyd cyhoeddus.”
Yn ôl yr Athro Fergus Lowe, un o sylfaenwyr Food Dudes, “Dylai unrhyw ymdrech o ddifrif i atal gordewdra ddechrau gyda phlant ifanc iawn. Mae’r rhaglen hon yn arwain y ffordd yn rhyngwladol drwy ddangos sut yn union y gellir cyflawni hyn a sut y gellir sefydlu arferion bwyta da’n gynnar mewn bywyd.”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2013