Food Dudes yn ennill bri rhyngwladol
Mae Athro Fergus Lowe a Dr Pauline Horne, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, wedi derbyn gwobr am eu gwaith arloesol ar ordewdra ymysg plant o flaen cynulleidfa o 4,000 o academyddion o sawl gwlad mewn cynhadledd yn Seattle yn ddiweddar.
Ar adeg pan mae gordewdra yn cynyddu’n gyflym ar draws y byd, mae rhaglen Food Dudes, a ddatblygwyd gan Dr Pauline Horne a’r Athro Fergus Lowe, wedi ennill bri rhyngwladol am ei llwyddiant wrth annog plant i fwyta rhagor o ffrwythau a llysiau a llai o fwyd ‘jync’.
Mae dulliau arloesol y rhaglen yn manteisio ar seicoleg gyfoes ac yn defnyddio ystod o gyfryngau a systemau gwobrwyo i helpu plant a’u teuluoedd i ddysgu mwynhau bwyta’n iach.
Mae’r rhaglen wedi’i chyflwyno’n genedlaethol ar draws Iwerddon, lle mae dros 300,000 o blant a’u teuluoedd eisoes wedi elwa ohoni, ac, yn y Deyrnas Unedig, mae ar hyn o bryd yn cael ei chyflwyno i 100,000 o blant yng Nghanolbarth Lloegr a rhanbarthau eraill. Hefyd mae rhaglenni llwyddiannus yn cael eu cynnal ym Milan yn Yr Eidal, ac yn Utah a Chaliffornia yn yr UDA.
Wrth gyflwyno’r Wobr Cymhwyso Gwyddonol (Trosglwyddo Technoleg), dywedodd yr Athro Michael Dougher, Llywydd y Gymdeithas er Hyrwyddo Dadansoddi Ymddygiad (SABA): “Mae’r Gymdeithas yn falch o gael cydnabod llwyddiannau rhaglen Food Dudes wrth wella diet plant trwy’r byd. Mae eich Rhaglen yn fodel i eraill sydd yn dymuno cael effaith ar ymddygiad o bwys cymdeithasol.”
Wrth ymateb, dywedodd yr Athro Lowe: “Mae’r wobr yn cydnabod yr holl ymchwilwyr sydd wedi gweithio fel rhan o dîm y Food Dudes wrth ddatblygu’r hyn sydd bellach y rhaglen fwyaf effeithiol sydd ar gael i newid diet plant”
Mae’r Rhaglen wedi ennill cydnabyddiaeth o sawl gyfeiriad, gan gynnwys Gwobr gan Sefydliad Iechyd y Byd, Gwobr Medal Aur Prif Swyddog Meddygol y DU, ac yn awr, Gwobr Cymhwyso Gwyddonol SABA.
Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae'r project yma, a gychwynnwyd gan Brifysgol Bangor, yn un a all gael effaith wirioneddol ar iechyd pobl yn y cymdeithasau hynny ym mhob rhan o’r byd sydd bellach yn wynebu her fawr o ran gordewdra. Rwy’n falch iawn fod yr academyddion dan sylw wedi derbyn cydnabyddiaeth gan eu cydweithwyr proffesiynol am eu cyfraniad.”
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2012