Former Chief Operating Officer of No.10 Downing Street receives Honorary Fellowship from Bangor
Derbyniodd cyn fyfyriwr o Fangor a chyn Brif Swyddog Gweithredol, Rhif 10 Downing Street, Eric Hepburn CBE, Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor ddoe (16/7/13).
Dyfarnwyd yr anrhydedd i Mr Hepburn, a raddiodd o Ysgol Busnes Bangor gyda gradd mewn Bancio a Chyllid yn 1983, i gydnabod ei wasanaethau i fywyd cyhoeddus.
Ers iddo raddio o Fangor mae Mr Hepburn wedi mwynhau gyrfa amrywiol mewn cyllid a rheolaeth gyffredinol. Bu'n Brif Swyddog Gweithredol yn Downing Street am chwe blynedd cyn symud i'w swydd bresennol fel Conswl Cyffredinol Prydain yn Washington DC.
Cymrodoriaeth er Anrhydedd yw'r anrhydedd uchaf y gall y Brifysgol ei rhoi ac fel rheol bydd gan y rhai a fydd yn ei derbyn gysylltiad â'r Brifysgol neu â Chymru.
"Cadwodd gysylltiad agos gyda Bangor trwy gydol ei yrfa ddisglair ar ôl graddio," meddai'r Athro Emeritws Ted Gardener, cyn bennaeth Ysgol Busnes Bangor. "Mae wedi bod yn barod bob amser i ddychwelyd a rhoi sgyrsiau i'r myfyrwyr ac i'n helpu gyda digwyddiadau'r alumni a digwyddiadau pwysig eraill. Fel cyn bennaeth yr ysgol, roeddwn yn ystyried Eric fel ffrind a hefyd fel rhywun cadarn y gallem ddibynnu arno i gael cefnogaeth gref a chyngor da".
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2013