Fy Ffrind Dylan Thomas
Mae’r Ysgol Cerddoriaeth mewn cydweithrediad â Pontio, yn falch o gyflwyno My Friend Dylan Thomas, gŵyl sy’n dathlu ymateb cerddorol i waith un o awduron amlycaf Cymru. Cynhelir yr ŵyl, a ddaw â cherddorion rhyngwladol i Fangor, o ddydd Sadwrn 25 hyd at ddydd Iau, 30 Hydref ac mae’r tocynnau ar werth yn awr ar wefan Pontio: www.tickets.pontio.co.uk.
Cyswllt Dylan Thomas â byd cerddoriaeth oedd ei gyfaill a’i gydweithiwr Daniel Jones (gweler y llun), cyfansoddwr y gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer Under Milk Wood (Tan y Wenallt) ac awdur y cofiant ffraeth a chyfeillgar My Friend Dylan Thomas. Bydd yr ŵyl yn cyflwyno pedwar cyfansoddiad gan Daniel Jones, gan gynnwys ei Bedwaredd Symffoni er cof am yr awdur a’r llenor, a pherfformiadau cyntaf erioed o ddau waith lleisiol a ysgrifennwyd gan Jones a Thomas pan oeddent yn fechgyn ysgol yn Abertawe.
Dathlir y berthynas agos rhwng Jones a Thomas hefyd mewn arddangosfa o lawysgrifau ac arteffactau unigryw, a gyflwynir mewn cydweithrediad ag Archifau Prifysgol Bangor a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Aberystwyth). Mae’r arddangosfa, sydd wedi’i lleoli y tu allan i Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, ar agor i’r cyhoedd yn ystod oriau swyddfa drwy gydol yr ŵyl.
Bydd y gyfres yn cyflwyno nifer o weithiau comisiwn newydd, gan gynnwys gweithiau ar themau Dylan Thomas gan John Rea, Guto Pryderi Puw ac Andrew Lewis, i’w perfformio ynghyd â gweithiau gan Elgar, Poulenc, Elisabeth Lutyens, William Mathias ac eraill. Mae’r perfformwyr yn cynnwys y soprano fyd-enwog Elin Manahan Thomas (gweler y llun), y pianydd jazz Huw Warren, y chwaraewr cello Thomas Carroll, Cantorion Prifysgol Bangor, a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r ŵyl hefyd yn cynnwys perfformiad theatrig un-dyn, sef Clown in the Moon.
‘Rydym ni’n falch iawn o gael y cyfle i hyrwyddo cerddoriaeth Daniel Jones, sy’n llawn deilwng o gael ei ail-ddarganfod,’ meddai’r Dr Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ac arweinydd Cantorion Prifysgol Bangor. ‘Mae’n briodol hefyd mai Prifysgol Bangor, sef canolfan arweiniol ar gyfer ymchwil i gerddoriaeth Cymru yw’r lleoliad ar gyfer y dathliad hwn o gyfraniad awdur enwocaf Cymru.’
Mae’r ŵyl yn rhan o Dylan Thomas 100, gŵyl ryngwladol sy’n dathlu canmlwyddiant geni’r bardd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2014