Gala Myfyrwyr Rhyngwladol
Cynhaliodd Prifysgol Bangor ei Gala Ryngwladol flynyddol yn ddiweddar. Mae'r digwyddiad hwn wedi dod yn ddyddiad pwysig yng nghalendr y myfyrwyr rhyngwladol. Roedd y Gala eleni yn cynnwys rhaglen lawn o berfformiadau lliwgar a bywiog gan y myfyrwyr.
Ar y noson gwelwyd myfyrwyr yn perfformio amrywiaeth o ganeuon, dawns a darnau offerynnol oedd yn adlewyrchu diwylliant eu mamwlad. Eleni roedd mwy o berfformiadau nag erioed gyda 18 o berfformwyr yn cymryd rhan, yn cynnwys côr o Gymru, pibydd Gwyddelig, gitarydd o Afghanistan a grŵp dawns o Fietnam. Roedd Neuadd Prichard-Jones yn llawn i'r ymylon gyda staff a myfyrwyr yn mwynhau’r cyfle i ddathlu amrywiaeth ym Mangor.
Dywedodd Manuela Vittori o'r Ganolfan Addysg Ryngwladol:
"Bob blwyddyn rwy'n synnu o’r ochr orau ar yr amrywiaeth o dalent sydd ymhlith ein myfyrwyr rhyngwladol. Rwyf wedi trefnu'r Gala ers tair blynedd bellach ac mae ystod a safon y perfformiadau yn tyfu ac yn gwella bob blwyddyn - rwy'n edrych ymlaen at 2014 yn barod!"
Diolch i Dominic Wodehouse am y lluniau.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2013